Dadansoddi Data i Gefnogi Gweithio Amlasiantaeth: Darganfod Data

Gellir defnyddio data amlasiantaeth i nodi tueddiadau, risgiau a chyfleoedd, ac i lywio datblygiad polisïau a gwasanaethau effeithiol ar gyfer plant a theuluoedd agored i niwed (GIG Digidol, 2022).

Er enghraifft, nodi a chefnogi teuluoedd sydd mewn perygl ar hyn o bryd ac a all fod mewn perygl yn y dyfodol, deall anghenion i lywio camau ataliol ac ymatebol, ymchwilio i ganlyniadau ar gyfer grwpiau penodol, llywio dyraniadau cyllid presennol ac yn y dyfodol, a llywio penderfyniadau am wasanaethau a chomisiynu.

O waith blaenorol Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC), a thrwy cydweithio â rhanddeiliaid, mae’n amlwg, er bod cyrff lleol a rhanbarthol yn casglu data, nad ydynt yn ei ddefnyddio’n rheolaidd i lywio polisi ac arferion yn y modd a nodir uchod. Yn rhannol o leiaf, mae hyn yn adlewyrchu diffyg gallu i ddadansoddi data, ac mae’n awgrymu nad yw rhai sefydliadau’n gwneud defnydd effeithiol o’r data sydd ar gael.

Fel ymateb I’r sefylfa hon, mae CPCC wedi gweithio gyda CASCADE a Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddisgrifio pa ddata amlasiantaeth sy’n hygyrch i’r cyhoedd sydd ar gael ac a allai lywio trafodaethau a phenderfyniadau ar lefel leol, ranbarthol a gwlad ynghylch ariannu a chomisiynu gwasanaethau i gefnogi plant a theuluoedd.

Daethpwyd i’r casgliad bod y dirwedd o ran data amlasiantaeth sydd ar gael i’r cyhoedd yng Nghymru sy’n berthnasol i ofal cymdeithasol plant yn helaeth ac yn gymhleth. Mae buddsoddi mewn gwella dangosfyrddau data cyfredol, diweddaru dolenni ffynonellau ac ychwanegu adroddiadau ansawdd yn hanfodol i wella defnydd a hygyrchedd data amlasiantaeth yng Nghymru.
Gwnaeth yr adroddiad argymhelliad ar gyfer gweithredu mewn tri maes:

  1.  Gwella allbynnau presennol data Cymru sydd ar gael i’r cyhoedd, trwy wella gwybodaeth am y data sydd ar gael, a chanolbwyntio adnoddau ar gynnal a gwella dangosfyrddau data presennol
  2. Mynd i’r afael â bylchau data allweddol i gynnwys data ar ymyrraeth gynnar ac atal ac atgyfeiriadau a chanlyniadau
  3. Cyfeiriadau posibl ar gyfer defnyddio data yng Nghymru yn y dyfodol, gan gynnwys gwella ymgysylltiad rhanddeiliaid wrth gasglu a defnyddio data.