Ymyriadau polisi i gefnogi cyfranogiad mewn addysg ôl-orfodol

Lleoliad sbarc|spark, Heol Maendy, Caerdydd, CF24 4HQ
Tocynnau Bwciwch yma
Dyddiad 5 Mai 2022

Nod y digwyddiad hwn yw dwyn ynghyd ac adeiladu ar ganfyddiadau adroddiadau amrywiol WCPP. Bydd yn trin a thrafod sut y gall Llywodraeth Cymru gynyddu cyfraddau cyfranogi, cadw a chyflawni mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, gan ganolbwyntio ar y grŵp oedran 16-19, a sut y gellir defnyddio’r newidiadau deddfwriaethol a ddaw yn sgîl y Bil Ymchwil ac Addysg Drydyddol (TER) i gefnogi hyn.

Bydd y digwyddiad yn dwyn ynghyd arbenigwyr a llunwyr polisïau sy’n gweithio ar amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud ag addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru a Lloegr.

Bydd yn rhoi cyfle i rannu gwybodaeth a phrofiad, trafod y sylfaen dystiolaeth gyfredol, a deall beth fyddai cymysgedd polisi priodol i annog ymgysylltiad parhaus â dysgu ac i leihau gadael yn gynnar, yn enwedig i grwpiau sy’n ymgysylltu leiaf â dysgu neu hyfforddiant.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys Dan Bristow (WCPP), yr Athro Sue Maguire (IPR), Dr Matt Dickson (IPR), Dr Sue Pember CBE (Holex), Huw Morris (Llywodraeth Cymru) ac Olly Newton (Edge Foundation).

 

14:15-14:30 – Arrival

14:30-14:40 – Welcome from chair, Dan Bristow (WCPP)

14:40-14:50 – Overview of the post-16 education and training system by Professor Sue Maguire (IPR)

14:50-15:00 – Overview of the impact of the Coronavirus pandemic on post-16 education and learning loss by Dr Matt Dickson (IPR)

15:00-15:10 – Supporting 16-25 year old learners into post-compulsory education by Dr Sue Pember CBE (Holex)

15:10-15:15 – Overview of potential responses in Wales by Huw Morris (Welsh Government)

15:15-15:20 – Overview of potential responses in England by Olly Newton (Edge Foundation)

15:20-15:50 – Panel discussion: ‘Supporting participation in post-compulsory education and training’, chaired by Dan Bristow (WCPP)

15:50-16:00 – Concluding remarks from chair, Dan Bristow (WCPP)

16:00-16:30 – Coffee break and networking

Gallwn ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer y sesiwn holi ac ateb os oes digon o alw.

Cofestrwch yma.