Yr Athro Syr Kevan Collins

(PhD)

Kevan yw Prif Weithredwr y Sefydliad Gwaddol Addysg.

Bu’n Brif Weithredwr ym Mwrdeistref Tower Hamlets yn Llundain, a chyn hynny cafodd yrfa nodedig ym myd addysg – yn cychwyn fel athro cynradd, yn arwain y Strategaeth Llythrennedd Cynradd fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol, ac yna’n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant yn Tower Hamlets.

Cafodd Kevan brofiad rhyngwladol yn gweithio yn Mozambique ac yn cefnogi datblygiad menter llythrennedd genedlaethol yn UDA ac fel aelod o Fwrdd Goodstart, darparwr blynyddoedd cynnar mwyaf Awstralia. Cwblhaodd ei ddoethuriaeth ar ddatblygu llythrennedd ym Mhrifysgol Leeds yn 2005, ac mae’n athro gwadd yn Sefydliad Addysg UCL. Cafodd Kevan ei urddo’n farchog yn 2015 am ei wasanaeth i fyd addysg.

Tagiau