Yr Athro Paul Johnson

(CBE)

Mae Paul wedi bod yn Gyfarwyddwr yn y Sefydliad Astudiaethau Ariannol ers mis Ionawr 2011.

Cyn hynny bu’n gweithio yn yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) ac fel prif economegydd yn yr Adran Addysg a chyfarwyddwr gwariant cyhoeddus yn Nhrysorlys EM, yn ogystal ag fel dirprwy bennaeth Gwasanaeth Economaidd Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae Paul yn athro gwadd yng Ngholeg y Brifysgol Llundain, ac mae wedi cyhoeddi a darlledu’n helaeth ar economeg polisi cyhoeddus, gan gynnwys treth, lles, anghydraddoldeb a thlodi, pensiynau, addysg, newid yn yr hinsawdd a chyllid cyhoeddus. Mae’n awdur llyfrau pwysig ar bensiynau, treth ac anghydraddoldeb, a hefyd yn gyd-awdur “adolygiad Mirrlees” o ddyluniad y system dreth.

Ar hyn o bryd mae Paul yn aelod o’r Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, yn aelod o’r Bwrdd Safonau Bancio, ac ar Fwrdd y Swyddfa Symleiddio Treth. Gynt bu’n gwasanaethu ar gyngor yr ESRC, ac roedd yn un o aelodau sylfaenu cyngor y Sefydliad Polisi Pensiynau. Mae hefyd wedi arwain adolygiadau o’r polisi ymrestru awtomatig ar gyfer pensiynau i’r DWP ac o ystadegau pris i’r UKSA.

Tagiau