Sandra Harris

Teitl swydd Rheolwr Canolfan
Sefydliad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
Ebost cyswllt sandra.harris@wcpp.org.uk
Rhif ffôn 02920874301

Sandra yw’r Rheolwr Canolfan yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac mae’n gyfrifol am sicrhau bod y Ganolfan yn gweithredu’n effeithiol drwy arwain a rheoli’r gwaith o’i llywodraethu, prosesau gweinyddol ac ariannol, a gweithdrefnau mewnol. Gan weithio’n agos â Chyfarwyddwr y Ganolfan, mae hi’n aelod o’r Grŵp Rheoli ac yn cefnogi tîm y Ganolfan yn effeithiol.

Mae hi’n weithredwr uwch medrus, Ysgrifennydd a Gweinyddwr Siartredig cymwys, rheolwr swyddfa ac arbenigwr llywodraethu, yn bennaf yn y sector cyhoeddus ond hefyd yn y trydydd sector, ac yn gweithio mewn amgylcheddau cymhleth gyda phrofiad o gyd-destunau addysgol a gwleidyddol. Mae hi’n Bennaeth Staff cwmni gwasanaethau busnes a rennir yn y sector cyhoeddus, a chyn hynny roedd hi’n bennaeth Swyddfa’r Prif Swyddog Gweithredol mewn awdurdod lleol mawr yng Nghymru. At hynny, mae hi wedi cynnal ymchwil, gwaith ymgynghori, a phrosiectau gwerthuso yn y sector cyhoeddus mewn elusennau yn arbenigo mewn meysydd llywodraethu, polisi cyhoeddus a gweinyddu, cynllunio a rheoli prosiectau.

Mae ganddi Ddiploma mewn Arwain a Rheoli Cyhoeddus (Rhagoriaeth) o Brifysgol Warwick, a Gradd Astudiaethau Busnes yn adran uchaf yr ail ddosbarth (anrhydedd). Mae hi hefyd yn Fentor Hyfforddwr Ardystiedig.

Yn ei hamser rhydd, mae hi’n chwarae rhan amlwg yn y gymuned, sy’n cynnwys bod yn Llywodraethwr Sefydledig mewn ysgol, gyda chyfrifoldebau ychwanegol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, diogelu plant, a fframwaith llythrennedd digidol Cymru.

Tagiau