Judith Langdon

Teitl swydd Rheolwr Canolfan
Sefydliad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
Ebost cyswllt judith.langdon@wcpp.org.uk

Jude yw Rheolwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Mae hi’n arwain tîm gwasanaethau proffesiynol y Ganolfan ac, fel aelod o dîm Rheoli Uwch y Ganolfan mae’n cyfrannu at gynllunio a rheoli’r Ganolfan yn y tymor hir.

Mae gan Jude flynyddoedd lawer o brofiad o weithio ym maes gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr, yn bennaf mewn rolau polisi a darparu gwasanaethau mewn llywodraeth leol. Cyn ymuno â’r Ganolfan, bu Jude yn Rheolwr Arloesi Cyfiawnder Cymdeithasol ar Gyngor Sir Fynwy, lle bu’n arwain gwaith yr awdurdod ar ddatblygu cymunedol ac ar drechu tlodi ac anghydraddoldeb.  Yn ystod y cyfnod hwn, sefydlodd Jude a chadeirio rhwydwaith swyddogion trechu tlodi CLlLC.

Mae gan Jude BSc (Anrh) mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a MSc mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus o Brifysgol Caerdydd.  Mae hefyd wedi bod yn llywodraethwr ysgol ers 2011 ar draws y cyfnodau cynradd ac uwchradd, ac ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Llywodraethwyr yn ei hysgol uwchradd leol.

Tagiau