Partneriaid

Isod mae manylion ein harianwyr, yn ogystal â'n partneriaethau gyda Rhwydwaith What Works ac Alliance for Useful Evidence.

Ein Harianwyr

Mae gan y Ganolfan dri ariannwr craidd – y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

Mae’r arianwyr yn gweithio gyda’r Ganolfan er mwyn cytuno ar ei datblygiad a’i chyfeiriad strategol, a chynnwys ac amseriad rhaglenni gwaith a gaiff eu hariannu gan yr arianwyr craidd, ac er mwyn monitro ei hallbynnau a’i heffaith.

 

Rhwydwaith What Works

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn rhan o Rwydwaith What Works, ac mae’n gweithio gyda chanolfannau What Works eraill er mwyn syntheseiddio a throi tystiolaeth gymhleth, sydd weithiau’n anhygyrch, yn adnoddau ymarferol a defnyddiol y gall llunwyr polisi ac ymarferwyr yng Nghymru eu defnyddio i wella’r broses gwneud penderfyniadau.

Mae aelodau eraill o Rwydwaith What Works yn cynnwys: