Beth rydyn ni’n ei wneud a sut rydyn ni’n ei wneud

Defnyddio tystiolaeth i wella gwasanaethau cyhoeddus a pholisïau’r llywodraeth

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn galluogi gwasanaethau cyhoeddus a gweinidogion Llywodraeth Cymru i gyrchu a defnyddio tystiolaeth sy’n helpu i ddatblygu Cymru well.

Rydym ni’n gweithio gydag arbenigwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol i ddeall yr heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n wynebu Cymru a nodi’r ffyrdd gorau o fynd i’r afael â nhw.

Rydym ni’n gwybod bod defnyddio tystiolaeth dda yn arwain at lunio polisïau gwell a darparu gwasanaethau fwy effeithiol. Felly rydym ni’n edrych ar beth sydd angen ei wneud a sut i wneud hynny.

Cliciwch delwedd i ehangu

 

Sut rydym ni’n gweithio

Ein nod yw llywio polisi ac arfer drwy ateb pum cwestiwn:

1.       Pa dystiolaeth sydd ei hangen ar lunwyr polisi?

Mae nodi pa dystiolaeth sydd ei hangen yn gam cyntaf pwysig tuag at wella polisïau a gwasanaethau cyhoeddus y llywodraeth.

Rydym ni’n gweithio gyda gweinidogion, swyddogion, ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i nodi’r dystiolaeth sydd ei hangen arnynt i ateb cwestiynau sy’n rhychwantu ystod eang o feysydd polisi.

Rydym ni hefyd yn monitro datblygiadau polisi sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru, a thu hwnt, fel y gallwn ragweld anghenion tystiolaeth yn y dyfodol ac ymateb iddynt.

 

2.       Beth mae’r dystiolaeth yn ei ddweud?

Mae yna lawer o fathau a ffynonellau tystiolaeth. Rydym ni’n helpu llunwyr polisi ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i gyrchu a chymhwyso tystiolaeth trwy syntheseiddio’r negeseuon allweddol o ymchwil annibynnol ac arbenigwyr blaenllaw.

Rydym ni am i lunwyr polisi ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus gael y dystiolaeth orau sydd ar gael. Felly, ar ôl i ni nodi’r hyn sydd ei angen arnyn nhw, rydyn ni’n dadansoddi’r ymchwil bresennol a phwy yw’r arbenigwyr blaenllaw.

Trwy ddod â thystiolaeth ynghyd gan arbenigwyr – yng Nghymru, yng ngweddill y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol – rydym ni’n chwarae rôl ymgynnull bwysig, gan gefnogi gweinidogion ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i gael gafael ar dystiolaeth a chyngor annibynnol, a helpu arbenigwyr i siarad yn uniongyrchol â nhw.

Rydym ni’n comisiynu arbenigwyr i ysgrifennu adroddiadau gyda ni ac yn gwahodd eraill i adolygu ein gwaith gan gymheiriaid. Rydym ni hefyd yn trefnu gweithdai fel y gall llunwyr polisi ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus glywed gan arbenigwyr a defnyddio cyfryngau cymdeithasol a phodlediadau i rannu’r dystiolaeth yn ehangach.

 

3.       Sut allwn ni gyfathrebu’r dystiolaeth?

Credwn y dylai tystiolaeth lywio’r broses o lunio polisïau a gwasanaethau cyhoeddus ac rydym ni’n cyfathrebu tystiolaeth mewn ffyrdd sy’n hwyluso hyn.

Dyna pam ein bod yn cynhyrchu amrywiaeth o allbynnau, mewn ystod o fformatau, sydd wedi’u teilwra i gynulleidfaoedd penodol. Mae ein gwaith yn cael ei ledaenu trwy adroddiadau, papurau briffio, blogiau, podlediadau, y wasg a’r cyfryngau traddodiadol, y cyfryngau cymdeithasol, papurau ymchwil, cynadleddau, cyfarfodydd bord gron a digwyddiadau.

Rydym ni’n gwneud ein canfyddiadau yn hygyrch ac yn sicrhau eu bod yn cael eu cyfathrebu’n glir i’n llunwyr polisi ac arweinwyr ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae ein holl adroddiadau a sesiynau briffio polisi wedi’u hysgrifennu mewn iaith glir, anarbenigol, a gellir eu lawrlwytho o’n gwefan.

Ein nod yw bod yn ffynhonnell dystiolaeth ddibynadwy, annibynnol. Felly, mae ein cyhoeddiadau yn cael eu gwirio’n drylwyr i sicrhau eu bod yn gywir ac yn ddibynadwy.

 

4.       Sut mae ein tystiolaeth yn llywio polisi ac arfer?

Ein nod yw gwella dealltwriaeth o sut y gall tystiolaeth lywio polisïau’r llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus.

Rydym ni’n gwneud hyn trwy ddadansoddi’r effaith y mae ein gwaith yn ei chael ac adlewyrchu ar beth sydd wedi gweithio a beth sydd heb.  Gan dynnu ar ein profiadau ein hunain a phrofiadau cynhyrchwyr tystiolaeth eraill, rydym ni’n cael mewnwelediadau i sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio wrth lunio polisïau ac ymarfer. Rydym ni’n rhannu’r hyn a ddysgwn gyda’r Rhwydwaith What Works ac yn lledaenu ein canfyddiadau trwy gynadleddau a chyfnodolion academaidd.

Mae’r astudiaethau achos isod, sy’n amlinellu ein gwaith ar effaith Brexit, plant sy’n derbyn gofal, a rhannu arfer gorau ar draws Rhwydwaith What Works, yn dangos rhai o’r ffyrdd yr ydym ni’n olrhain effaith ein hymchwil. Mae’r rhain yn cynnwys casglu data, fel sawl gwaith y mae ein gwaith yn cael ei ddyfynnu yn nogfennau polisi’r llywodraeth a datganiadau gweinidogol.

 

5.       Sut gallwn ni annog y defnydd o dystiolaeth ddibynadwy?

Rydym ni’n bencampwyr dros ddefnyddio tystiolaeth trwy ddangos ei ddefnyddioldeb i lunwyr polisi ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus a helpu ymchwilwyr i ymgysylltu â nhw.

Ein nod yw cynyddu dealltwriaeth llunwyr polisi ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus o werth tystiolaeth ddibynadwy. Rydym ni’n gwybod bod llunio polisi yn gymhleth ac y gall fod yn anodd i’r rhai y tu allan i’r llywodraeth wybod sut i gyflwyno eu tystiolaeth. Felly, rydym ni hefyd yn helpu arbenigwyr i ymgysylltu â’r broses.

Mae ein rhaglen Prentisiaeth Ymchwil a’n hinterniaethau PhD yn arfogi cenhedlaeth newydd o ymchwilwyr i ymgymryd ag ymchwil sy’n berthnasol i bolisi, ac i allu cyfathrebu’n effeithiol â llunwyr polisi ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus.

 

Beth rydyn ni'n ei wneud a sut rydyn ni'n ei wneud
Cliciwch i’w lawrlwytho fel PDF: Beth rydyn ni’n ei wneud a sut rydyn ni’n ei wneud