Sut gallai polisïau gwrth-ysmygu effeithio ar y cynnydd yn y defnydd o e-sigaréts? 

Mae’r nifer cynyddol o bobl sy’n defnyddio e-sigaréts, neu’n fêpio, yn creu her polisi sylweddol i lywodraethau yng Nghymru, y DU ac mewn mannau eraill. Rydym ni’n edrych ar y gwahanol fesurau y mae llywodraethau ledled y byd yn eu rhoi ar waith.

Yn y DU, dywedodd 9.1% o oedolion eu bod wedi defnyddio e-sigaréts yn 2023, sy’n cyfateb i tua 4.7 miliwn o oedolion. Mae rhai yn gweld hyn fel newyddion da, gan fod dros hanner y rheini sy’n defnyddio e-sigaréts yn gyn-ysmygwyr tybaco. Mae hyn yn tynnu sylw at botensial e-sigaréts i helpu i leihau’r niferoedd sy’n defnyddio tybaco a sicrhau budd sylweddol i iechyd y cyhoedd.

Fodd bynnag, bu cynnydd hefyd yn nifer y plant a phobl ifanc sy’n defnyddio e-sigaréts: mae dros 20% o blant rhwng 11 a 17 oed yn y DU wedi rhoi cynnig ar e-sigaréts, gan godi o tua 14% dechrau 2020.

Mae hyn yn broblem. Er bod e-sigaréts yn llai niweidiol nag ysmygu, nid ydyn nhw heb risg, ac mae rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu y gallai fod risgiau ychwanegol i ddatblygiad yr ymennydd ymhlith pobl ifanc sy’n dod i gysylltiad â nicotin. Mae cyngor y GIG yn nodi “na ddylai pobl sydd ddim yn ysmygu na phobl ifanc dan 18 oed ddefnyddio e-sigaréts”

Nid yw bron i hanner y plant yn y DU sydd wedi defnyddio e-sigaréts erioed wedi ysmygu sigarét. Mae defnyddio e-sigaréts yn cymryd lle ysmygu tybaco ymysg cyn-ysmygwyr, a phlant a phobl ifanc. Mae angen i lywodraethau wneud penderfyniadau polisi sy’n taro’r cydbwysedd cywir rhwng manteision posibl lleihau’r gyfradd ysmygu drwy ddefnyddio e-sigaréts, ac atal y niwed sy’n cael ei achosi gan fwy o ddefnydd ohonynt ymysg pobl ifanc a/neu bobl sydd ddim yn ysmygu. Mae tensiwn clir rhwng yr amcanion hyn: manteision lleihau cyfraddau ysmygu ac anfanteision galluogi mynediad haws at e-sigaréts.

Mae gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn y maes hwn yn anoddach oherwydd grwpiau lobïo pwerus sy’n cael eu hariannu’n dda, natur ddadleuol y dystiolaeth, a diffyg tystiolaeth tymor hir ar niwed defnyddio e-sigaréts. Serch hynny, mae gwledydd eraill eisoes wedi gweithredu i leihau eu cyfraddau ysmygu a chyfyngu ar y gallu i gael gafael ar e-sigaréts.

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth y DU wedi amlinellu cynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth i ‘greu cenhedlaeth ddi-fwg’ mewn Papur Gwyn newydd – gan godi’r isafswm oedran ar gyfer prynu cynnyrch tybaco bob blwyddyn. Mae’r dull arloesol hwn eisoes wedi cael ei roi ar waith yn Seland Newydd. Fodd bynnag, nid yw’n berthnasol i e-sigaréts. Cyhoeddodd llywodraeth Seland Newydd bolisïau newydd ym mis Mehefin eleni, gan gynnwys lleihau’r cryfder nicotin uchaf mewn e-sigaréts oherwydd pryderon ynglŷn â chyfraddau defnyddio e-sigaréts ymysg pobl ifanc. Er gwaethaf y ddeddfwriaeth gwrth-ysmygu arloesol, mae Seland Newydd wedi gorfod cymryd camau i atal pobl ifanc rhag defnyddio e-sigaréts i liniaru’r risg o genhedlaeth newydd o ddefnyddwyr e-sigaréts. Mae’n debyg y bydd llywodraethau eraill yn gorfod mynd i’r afael â’r broblem hon hefyd.

Yn yr un Papur Gwyn, mae Llywodraeth y DU yn amlinellu nifer o fentrau polisi eraill mewn mannau eraill sydd wedi ceisio lleihau cyfraddau ysmygu a defnyddio e-sigaréts.  Ar yr un pryd, mae Llywodraeth y DU hefyd yn gweithredu cynllun ‘cyfnewid i roi’r gorau iddi’, gan roi pecyn cychwynnol o e-sigaréts i ysmygwyr yn Lloegr sy’n awyddus i roi’r gorau i ysmygu, ochr yn ochr â chymorth gydag ymddygiad. Roedd y cynlluniau peilot yn darparu tua phythefnos o gyflenwad o hylif e-sigaréts, oedd yn golygu y bydd hi’n debygol y bydd yn rhaid i’r rheini oedd yn cymryd rhan ddibynnu ar y farchnad fasnachol i gael hylif ac i osgoi mynd yn ôl i ysmygu. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod cyn-ysmygwyr wedi elwa o’r farchnad fasnachol bresennol ar gyfer e-sigaréts, ac y bydd y llwybr masnachol yn debygol o barhau i fod yn ffactor pwysig o ran annog pobl i roi’r gorau i ysmygu drwy e-sigaréts. O ystyried dibyniaeth y cynllun hwn ar y farchnad fasnachol ar gyfer e-sigaréts, mae hyn yn tynnu sylw at bresenoldeb parhaus tebygol e-sigaréts ar y farchnad, a’r posibilrwydd (a’r risgiau dilynol) fod pobl sydd ddim yn ysmygu yn cael gafael ar e-sigaréts. Mae Awstralia wedi mabwysiadu dull gwahanol o atal ysmygu, gan wrthod defnyddio e-sigaréts fel adnodd i roi’r gorau i ysmygu, ac atal pobl rhag cael gafael ar e-sigaréts sy’n cynnwys nicotin heb bresgripsiwn. Mae’r polisi rhoi’r gorau i ysmygu wedi cael effaith sylweddol ar argaeledd e-sigaréts yn y farchnad a barn pobl ynglŷn â nhw, ac mae Llywodraeth y DU anghyffredin o ran darparu e-sigaréts fel adnodd i roi’r gorau i ysmygu. Yn wir, mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi dweud fod ganddo “ddiddordeb” ym mholisi Awstralia o gyfyngu ar werthu e-sigaréts i’r rheini sydd â phresgripsiwn, gan ddangos gwahaniaeth allweddol i safbwynt Llywodraeth y DU.

Beth mae hyn yn ei olygu i Gymru? Mae llywodraethau datganoledig yn y DU yn gallu gwneud eu penderfyniadau eu hunain drwy’r GIG datganoledig ar bresgripsiynau e-sigaréts, ond nid yw’n glir a oes ganddyn nhw’r pwerau i wneud penderfyniadau unochrog ar argaeledd cynnyrch. Mae llywodraethau is-genedlaethol eraill wedi datblygu polisïau mwy cyfyngol i atal mynediad at e-sigaréts: Mae Quebec, er enghraifft, wedi gwahardd gwerthu e-sigaréts ar-lein. Er bod Llywodraeth y DU wedi dilyn yr Alban wrth ystyried gwahardd e-sigaréts tafladwy, nid oedd yn glir o’r blaen a oedd gan Lywodraeth yr Alban y pŵer i wneud hyn ar ei phen ei hun. Mae’r llywodraethau datganoledig wedi mynd ymhellach yn y gorffennol i gyfyngu ar fynediad at gynnyrch caethiwus ar sail iechyd y cyhoedd, mewn meysydd lle mae pwerau datganoledig yn gymhleth. Yr enghraifft orau o hyn yw gweithredu isafswm prisiau uned yng Nghymru a’r Alban (er nad oedd hyn yn hawdd). Mewn mater iechyd cyhoeddus cymhleth fel hwn, mae’n bwysig gwybod pwy sydd â phŵer datganoledig: a all Llywodraeth Cymru weithredu fel y gwêl orau, ynteu a oes yn rhaid iddi ddilyn arweiniad Llywodraeth y DU? Beth bynnag, byddai’n rhaid i unrhyw gamau a gymerir gan lywodraethau datganoledig ystyried effeithiau masnach drawsffiniol ac argaeledd y farchnad.

Mae’n amlwg bod angen i lywodraethau gymryd camau i leihau cyfraddau ysmygu a defnyddio e-sigaréts. Ond mae angen iddyn nhw hefyd ystyried y berthynas rhwng ysmygu a defnyddio e-sigaréts, mewn cyn-ysmygwyr a phobl ifanc, a gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth sy’n ystyried y canlyniadau anfwriadol posibl. Bydd hyn yn heriol, o ystyried natur ddadleuol y sylfaen dystiolaeth, a’r diffyg tystiolaeth aeddfed ar risgiau tymor hir defnyddio e-sigaréts.