Sut all Cymru fwydo ei hun mewn byd bioamrywiol a charbon niwtral yn y dyfodol?

Darllenwch ymateb Alexander Phillips, Rheolwr Polisi ac Eiriolaeth WWF Cymru i ein adroddiad: Sut gallai Cymru fwydo’i hun erbyn 2035?

Gydag effeithiau newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth yn dod yn fwyfwy amlwg o gwmpas y byd, mae’r cwestiwn ‘sut all Cymru fwydo’i hun yn 2035’ a thu hwnt yn bendant yn un o gwestiynau polisi cyhoeddus pwysicaf ein hoes.

Er bod gan sectorau fel cynhyrchu ynni a thrafnidiaeth ffordd strategaethau clir ar waith ar gyfer datgarboneiddio yn arwain at 2050 trwy ddefnyddio mwy o ynni adnewyddadwy a thanwyddau amgen,  nid oes llawer o weithredu ar hyn o bryd i symud y pwyslais yn y system fwyd. Y system hon sy’n gyfrifol am oddeutu traean o’r allyriadau nwyon tŷ gwydr yn fyd-eang[1], ac felly mae’n sector sydd â photensial mawr i gyflawni’r newidiadau mae eu hangen er mwyn gwireddu Sero Net.

Yma yng Nghymru, mae’r systemau amaethyddol anghynaladwy presennol wedi arwain at amcanestyniadau sy’n dangos mai’r sector hwn fydd allyrrydd domestig mwyaf nwyon tŷ gwydr erbyn tua 2035[2]. Mae ei allyriadau wedi codi yn ystod y degawd diwethaf, sy’n mynd yn groes i’r duedd o allyriadau’n gostwng yn y sectorau domestig eraill[3].

Deddf Amaeth (Cymru) 2023 a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy sy’n deillio ohoni

Mae ein hymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd wedi gorfodi Llywodraeth Cymru i weithredu yn y maes hwn. Mae gan y Ddeddf Amaeth (Cymru) 2023 newydd a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy sy’n deillio ohoni y potensial i feithrin symudiadau sylweddol ar ochr gynhyrchu’r system fwyd, pe bai  gwleidyddion yn ddigon dewr i’w thrawsnewid yn system cynhyrchu bwyd wirioneddol gynaliadwy.  Byddai hyn yn gyferbyniad sylweddol i sefyllfa bresennol Cymru lle, ochr yn ochr ag allyriadau cynyddol, cydnabyddir bod arferion ffermio anghynaladwy yn un o brif ysgogwyr y broses colli bioamrywiaeth.

Yn ddi-os, os yw’r cyflawniad a’r dyraniadau cyllidebol gyfwerth â’r uchelgais, y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw ein cyfle mwyaf i lunio arferion amaethyddol yn y degawdau nesaf a sicrhau y bydd Cymru yn parhau ar hyd y trywydd i ddiwallu ei huchelgeisiau Sero Net. Mae’r Cynllun yn rhoi inni gyfle i wobrwyo system ffermio sy’n gweithio’n agosach â natur gartref, a hefyd yn gyfle i sicrhau nad yw arferion ffermio yng Nghymru‘n cyfrannu at golli natur a newid hinsawdd mewn gwledydd tramor. Er enghraifft, mae gofynion Cymru o ran bwyd anifeiliaid fferm ar hyn o bryd yn golygu bod tri chwarter o’r soia a fewnforir gennym yn dod o wledydd fel Paraguay, yr Ariannin a Brasil, sy’n wynebu risg uchel, neu risg uchel iawn o ddatgoedwigo a phroblemau cymdeithasol eraill[4].

Y system fwyd ehangach

Wrth nodi’r pwyntiau hyn, mae’n hanfodol cydnabod mai dim ond un rhan o’r pos yw cynhyrchu bwyd, yn enwedig pan fo’r hyn a gynhyrchwn ac a fwytawn yng Nghymru mor ddigyswllt – dim ond 5% o’r cig oen a’r cig eidion a gynhyrchir gennym a gaiff ei fwyta yng Nghymru[5], a mewnforion sy’n cyflenwi’r rhan fwyaf o’n cymeriant maethol. Yn syml, nid ydym yn ‘bwydo’r genedl’ ar hyn o bryd.

Yn yr un modd, mae Cymru’n dal i fod ymhell ar ei hôl hi o ran diwygio’r system fwyd ehangach – ac ychwanegwyd at hyn gan fethiant y Senedd i ystyried Bil Bwyd (Cymru) ymhellach yn gynharach eleni. Mae angen inni feithrin ymagwedd strategol gyd gysylltiedig at ein system fwyd, a fydd yn mynd i’r afael ag effeithiau’r system fwyd ehangach yn ein rhuthr at Sero Net, gan gynnwys y bwyd a fwyteir a gwastraff bwyd.

O gofio’r cyd-destun hwn, roeddwn wrth fy modd i weld y Grŵp Her Sero Net 2035 yn neilltuo cymaint o’i egni i ateb y cwestiwn o sut bydd Cymru’n bwydo ei hun yn y dyfodol agos. Er fy mod i’n dal i feddwl nad yw llwybr Sero Net 2035 cenedlaethol yn ymarferol, cydnabyddaf mai gwir werth y Grŵp Her yw gofyn cwestiynau o’r fath, gan dynnu sylw at y meysydd lle mae angen inni wella ein hymdrechion os ydym am gyflawni ein hymrwymiad i gyrraedd Sero Net erbyn 2050 fan hwyraf.

Yr angen i fod yn onest

Mae Pecyn Tystiolaeth newydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru am y system fwyd mor werthfawr o’r safbwynt hwn. Mae’n dwyn ynghyd yn ddestlus gymaint o faterion a dadleuon cymhleth â’r data gorau sydd ar gael, i greu darlun o systemau amaethyddol a bwyd Cymru sy’n tynnu sylw at ddau wirionedd brawychus y mae angen i bawb ohonom fod yn onest amdanynt:

  • Nad yw ein system fwyd gyfredol yn addas i’r diben. Mae’n methu â darparu ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru ac mae’n gyrru tueddiadau negyddol o ran allyriadau, llygredd, a cholli bioamrywiaeth; a,
  • Heb ddiwygiadau sylweddol ar frys, mae’n debyg y caiff y methiannau hyn eu helaethu yn ystod y 25 i 30 mlynedd nesaf, wrth i’r pwysau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol sydd ar Gymru waethygu.

Y trawsnewidiad amaethecolegol

Wrth sylweddoli’r pethau hyn, yr her yw beth ddylem ni ei wneud? Sut allwn ni newid ein system gynhyrchu a’r system ehangach, fel eu bod yn gweithio’n well gyda natur, yn canolbwyntio llai ar allforio, ac yn hytrach yn cyd-fynd yn well â’n hanghenion maethol ac â chynnal cymunedau’n ddiwylliannol ac yn economaidd?

Yr ateb yw trawsnewid amaethecolegol sy’n:

  • Dod â’n prosesau cynhyrchu bwyd yn ôl o fewn terfynau naturiol drwy adfer bioamrywiaeth ac atafaelu carbon ar y raddfa sydd ei hangen i wireddu ein huchelgeisiau o ran Sero Net drwy arferion atgynhyrchiol;
  • Meithrin cysylltiadau cryfach rhwng y prosesau cynhyrchu a defnyddio ar draws cadwyni cyflenwi er mwyn bodloni ein hanghenion maethol yn well, a chefnogi cadwyni cyflenwi teg a byr, a cheisio allforio’n gynaliadwy lle bo’n bosibl; ac,
  • Yn sicrhau nad yw ffermwyr ar drugaredd amrywiadau anwadal o ran prisiau mewnbwn ac ansefydlogrwydd ehangach yn y farchnad, sydd wedi arwain at golli cymaint o ffermydd teuluol yn y gorffennol, ac felly’n cynnig economi gwledig mwy cynaliadwy a bywiog i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Ffermwyr yn arwain y ffordd

Er y gall polisi Llywodraeth Cymru sy’n dod i’r amlwg gefnogi’r trawsnewidiad hwn, rhaid iddo wneud hynny mewn ffordd sy’n cydnabod ein bod ni yn y sefyllfa sydd ohoni yn bennaf oherwydd y ffordd y cafodd cynlluniau cymorth eu llunio yn y gorffennol. Cafodd cynlluniau fel y Polisi Amaethyddol Cyffredin eu llunio i ddiwallu’r agenda cynhyrchu ar ôl yr Ail Ryfel Byd, nad oedd byth yn addas iawn ar gyfer arferion traddodiadol mwy cynaliadwy ar ffermydd teuluol. Mae hyn oll yn ffordd hir o ddweud nad y ffermwyr sydd ar fai am y system maent yn gweithredu ynddi, ond rhaid iddynt fod yn ganolog  i’r broses o drawsnewid i rywbeth gwell.

Gall amaethecoleg fod yn ffordd o wneud hyn yn well. Gyda’r cymorth iawn, gallwn achosi trawsnewidiad cymaint ag y bo’n ddigonol i ragori ar ein hanghenion maethol ynghyd â rhai cenedlaethau’r dyfodol. Mae digonedd o ffermwyr ledled Cymru eisoes yn gwneud hyn, fel y nodwyd gan WWF Cymru yn ein hadroddiad astudiaethau achos diweddar. Y broblem a wynebant ar hyn o bryd yw eu bod nhw wedi ceisio gwneud y symudiad hwn at amaethecoleg eu hunain, ac nid yw’r cyllid hanesyddol na chynigion cyfredol Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru wedi gwneud, nac yn gwneud digon i gefnogi’r hyn a gyflawnwyd ganddynt eisoes, ac i ysgogi ffermwyr eraill i’w dilyn.

Wrth wneud hyn, nid ydym yn esgus y bydd yn gweithio yn yr un ffordd i bawb. Fel sy’n wir am bob system, bydd gan system amaethecolegol ei chryfderau a’i gwendidau. Er hynny, trwy archwilio’r hyn sy’n bosibl a gofyn y cwestiynau anodd fel sy’n fwriad gan y Grŵp Her, gall pawb ddeall yn well lle mae’r risgiau a’r cyfleoedd, a sut y gallai cyllid gan drethdalwyr yn y dyfodol – ar ffurf y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd ar y gweill a thu hwnt – gefnogi’r trawsnewidiad hwn yn y ffordd fwyaf teg ac effeithiol.

Beth am ffermydd mwy o faint?

O edrych ar enghreifftiau o gwestiynau anodd o’r fath, cafwyd trafodaeth helaeth yn ystod y misoedd diwethaf ynghylch y graddau y bydd y trywydd a fwriedir gan Lywodraeth Cymru’n gweithio i ffermydd mwy o faint, gan gynnwys ffermydd llaeth diwydiannol. Mae pob ochr yn cydnabod y risgiau yma – bod maint, dulliau a thechnegau rheoli tirwedd llawer o’r ffermydd hyn yn golygu ei fod yn anoddach i lawer ohonynt drawsnewid i’r arferion datgarboneiddio sy’n fwy ystyriol o natur na’r rhan fwyaf o’r ffermydd tir uchel traddodiadol. Mae’r cwestiwn yn newid i sut bydd cynlluniau a ariennir gan y trethdalwyr, fel y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yn ymdrin â’r sefyllfa hon. Hyd yma, ymddengys nad oes gan y Llywodraeth ateb digon cadarn.

Yn ôl pob tebyg, gall wneud y Cynllun Ffermio Cynaliadwy’n fwy hyblyg a pheryglu lleihau uchelgais y mwyafrif gymaint nes y bydd yn annhebygol y gellir cyrraedd ein targedau o ran bioamrywiaeth a Sero Net. Efallai y gall dderbyn yn lle hynny y bydd rhai ffermydd yn dewis peidio â chymryd rhan yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ac yn dewis wynebu’r farchnad ar eu pennau eu hunain, ac y bydd rheoliadau a orfodir yn gryf yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau na fydd y ffermydd eraill llai blaengar mewn meysydd fel llygredd dŵr croyw yn gwerthu eu cynnyrch yn rhatach na’r ffermydd sy’n cynhyrchu yn unol â safonau amgylcheddol uwch.

Mae’n amlwg nad yw’r cyntaf yn dderbyniol i’r rhai sy’n dymuno creu Cymru Sero Net natur-gyfoethog, ac y byddai’r ail yn debyg o ennyn trafodaethau anodd iawn rhwng y Llywodraeth a’r grwpiau yr effeithir arnynt – gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a fydd yn dwyn baich unrhyw gostau pellach o ran gorfodi rheoliadau. Wrth gwrs, efallai’n hytrach y bydd y Llywodraeth yn gobeithio y bydd ‘trydedd ffordd’ yn dod i’r amlwg – yn debyg o fod yn ymwneud ag ychwanegu gwerth at gadwyni cyflenwi yn yr Haen Gydweithredol er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd i ymgymryd â chymysgedd mwy amrywiol o weithgareddau datgarboneiddio natur-gyfoethog. Fodd bynnag, bydd ymagwedd o’r fath bob amser yn  anodd iawn ei gweithredu ar raddfa fwy, ac efallai y bydd hyd yn oed yn galw am gynllun pwrpasol tu hwnt i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

System fwyd a defnydd tir cynaliadwy sy’n cyflawni dros natur a’r hinsawdd? 

Mae WWF Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r holl gynrychiolwyr i ddeall y cwestiynau hyn yn well, a’u hateb, ers 2017, a bydd yn parhau i wneud hynny yn ystod y blynyddoedd i ddod. Ein gobaith yw y bydd yr atebion rydym yn eu darganfod yn parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru, grwpiau ffermio a’r Grŵp Her Sero Net 2035 gyda’r gwaith o ganfod a sicrhau system fwyd a defnydd tir cynaliadwy sy’n cyflawni llwybr cyfiawn, natur-gyfoethog, sero net cyn gynted ag y bo modd.

 

[1] https://wrap.org.uk/resources/report/uk-food-system-ghg-emissions

[2] UKCCC. 2020. Sixth Carbon Budget – Dataset. https://view.officeapps.live.com/op/view.aspx?src=https%3A%2F%2Fwww.theccc.org.uk%2Fwp-content%2Fuploads%2F2020%2F12%2FThe-Sixth-Carbon-Budget-Dataset_v2.xlsx&wdOrigin=BROWSELINK

[3] https://statswales.gov.wales/Catalogue/Environment-and-Countryside/Greenhouse-Gas/emissionsofgreenhousegases-by-year

[4] Wales and Global responsibility https://www.wwf.org.uk/sites/default/files/2021-11/wwf_risky_b_wales.pdf

[5] https://meatpromotion.wales/en/industry-statistics