Newid ein deiet: ffordd ymlaen ar gyfer yr argyfwng hinsawdd, ein iechyd dynol ac ariannol

Mae lleihau allyriadau o amaethyddiaeth yn parhau i fod yn un o’r rhwystrau mwyaf ar lwybr Cymru i sero net. Mae cynnydd wedi bod yn gyfyngedig yn y blynyddoedd diwethaf ac er bod angen newidiadau ‘ochr gyflenwi’ i arferion ffermio, ni fydd y rhain yn unig yn ddigon i gyflawni gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau amaethyddol. Mae angen newid ‘ochr y galw’ yn ymddygiad defnyddwyr hefyd.

Yn wir, yn senario ‘llwybr cytbwys’ y Pwyllgor Newid Hinsawdd i Gymru (CCC) fedru cyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050, mae newidiadau mewn ymddygiad defnyddwyr yn ysgogi bron i 60% o’r gostyngiadau mewn allyriadau amaethyddol: yn bennaf o ganlyniad i ostyngiadau mewn gwastraff bwyd ac wrth fwyta cig a llaeth.

Mae’r llwybr cytbwys yn rhagweld toriad o 20% yn y cig a’r llaeth a fwyteir erbyn 2030, gan godi i 35% erbyn 2050 ar gyfer cig yn unig. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hyn yn ei chynllun ar gyfer Cymru sero net, ond mae’r CCC wedi nodi ei bod yn dal yn rhy gynnar i ddweud a yw Cymru ar y trywydd iawn i gyflawni hyn. Mae hefyd yn rhagweld gostyngiad o 50% mewn gwastraff bwyd (o’i gymharu â lefelau 2007) erbyn 2030, a gostyngiad o 60% erbyn 2050. Mae Llywodraeth Cymru hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol, gan geisio cyrraedd y targed o 50% erbyn 2025, a’r targed o 60% erbyn 2030.

Ond er y bydd cyflawni hyn yn heriol, mae gan newid ymddygiad system fwyd hefyd y potensial i sicrhau buddion ar draws agweddau lluosog ar les ochr yn ochr â thorri allyriadau.

Er enghraifft, er y bydd cyrraedd targedau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau gwastraff bwyd yn gofyn am ddulliau rhagweithiol ar draws cymdeithas Cymru, mae ganddynt hefyd y potensial i sicrhau arbedion ariannol sylweddol i gartrefi, rhagolwg a groesewir yn ystod yr argyfwng costau byw presennol.

Mae gan newid deietegol i dorri allyriadau hyd yn oed mwy o botensial i sicrhau buddion y tu hwnt i’r argyfwng hinsawdd.  Mae 51% o galorïau sy’n cael eu bwyta yn y DU yn dod o fwydydd sydd wedi’u prosesu’n eithafol, gyda thua 7% o gynhyrchion cig wedi’u hailgyfansoddi, a 18% o nwyddau wedi’u pobi, gan gynnwys bara. Yn frawychus, gall pedwar o’r pum ffactor risg uchaf ar gyfer blynyddoedd iach o fywyd a gollwyd oherwydd salwch, anabledd a marwolaeth fod yn gysylltiedig â diet. Er mwyn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a gwella ein hiechyd, mae angen i ni fwyta mwy o fwydydd sy’n seiliedig ar blanhigion, gan gynnwys ffrwythau a llysiau; a lleihau’r defnydd o fwydydd wedi’u prosesu’n eithafol, a chig a chynhyrchion llaeth.

Fodd bynnag, mae mynediad at fwyd iach yn anghyfartal, gyda’r rhai ar incwm is yn bwyta’n llai iach ac yn fwy tebygol o brofi canlyniadau iechyd negyddol sy’n gysylltiedig â deiet, gan gynnwys diabetes, clefyd y galon a phydredd dannedd.

Yn 2021-22, byddai angen i bumed mwyaf difreintiedig y boblogaeth fod wedi gwario hanner eu hincwm gwario ar fwyd i dalu cost y ddeiet iach a argymhellir gan y Llywodraeth. O ystyried effaith chwyddiant ar brisiau bwyd ers hynny, mae’r gyfran hon bellach yn debygol o fod yn llawer uwch. Mae cyfran gynyddol o bobl yng Nghymru yn ansicr o ran bwyd, gyda pharseli bwyd brys a ddosberthir yng Nghymru gan Ymddiriedolaeth Trussell yn codi dros 41% yn y flwyddyn hyd at 2022/23. Mae oedolion ar incwm is hefyd yn fwy tebygol o fod â deiet sy’n cynnwys llawer o siwgr, a bwyta llai o bysgod, ffibr, a ffrwythau a llysiau.

Felly, gallai ymyriadau sy’n cynyddu mynediad at fwyd iach fforddiadwy gyflwyno tair set o fanteision: i’r amgylchedd, i’n hiechyd, ac wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau. Ond nid bwled arian yw hon. Mae’r DU yn mewnforio bron i hanner y bwyd y mae’n ei fwyta, a dim ond 5% o’r cig eidion a chig oen a gynhyrchir yng Nghymru sy’n cael ei fwyta yng Nghymru. O ystyried ein dibyniaeth ar fewnforio bwyd ac allforio ein cynnyrch ein hunain, gall newid i ddeiet sy’n fwy seiliedig ar blanhigion gael mwy o effaith ar allyriadau byd-eang nag allyriadau Cymru. Nid yw hyn yn gwneud newid deietegol yn llai pwysig, o ystyried ein cyfrifoldeb byd-eang ar y cyd i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ond dim ond un darn o’r pos yw newid yr hyn rydym yn ei fwyta yng Nghymru; mae angen inni newid rhannau eraill o’n system fwyd hefyd, gan gynnwys yr hyn yr ydym yn ei gynhyrchu.

Fel rhan o’i Rhaglen Lywodraethu, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru, i annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd o ffynonellau lleol. O ystyried natur gynyddol hir a chymhleth cadwyni cyflenwi bwyd, bydd ymdrechion i gynyddu faint o fwyd a gynhyrchir yn lleol o fudd i economïau lleol a chymunedau ffermio Cymru. Gallai cyfuno’r ffocws newydd hwn â newid arferion bwyta a chynyddu mynediad at fwyd fforddiadwy ac iach leihau allyriadau tra hefyd yn lleihau anghydraddoldeb cymdeithasol ac ansicrwydd bwyd, gwella iechyd y cyhoedd, a chefnogi economïau lleol. Mae gan wneud newidiadau yn yr holl feysydd hyn y potensial i wneud iawn am dir coll ar lwybr Cymru i sero net, tra’n helpu i greu dyfodol mwy cynaliadwy ac iachach yn y broses.