Trefniadau partneriaeth cymhleth yn rhwystro rhoi cymorth effeithiol i blant a theuluoedd

Cydnabuwyd ers tro fod yn rhaid i’r gwasanaethau sy’n cynnig cymorth gael eu darparu mewn ffordd gydlynol a ‘chyd-gysylltiedig’ ar gyfer y plant mwyaf agored i niwed, y rhai sydd mewn perygl o fynd i ofal.

Mae hyn oherwydd problemau ac anghenion sy’n gorgyffwrdd; y rhai sy’n cael eu crybwyll amlaf yw’r ‘triawd sbarduno’ sef camddefnyddio sylweddau, cam-drin domestig, a salwch meddwl. Ond hefyd oherwydd bod y ffactorau risg sylfaenol – tlodi, amddifadedd ac anghydraddoldebau ehangach – yn torri ar draws seilos neu ffiniau polisi a chyflawni.

Felly, er mwyn ymateb yn ddigonol i anghenion y plant hyn a’u teuluoedd mae angen gweithio mewn partneriaeth ar draws nifer o asiantaethau.

Yng Nghymru, mae gwella gwaith aml-asiantaeth er mwyn cefnogi plant a theuluoedd wedi bod yn flaenoriaeth mewn polisi cenedlaethol o leiaf ers 2010 os nad cyn hynny. Ac eto, mae tystiolaeth yn awgrymu nad yw’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad yn cyflawni’r uchelgais polisi.

Rydym ni wedi bod yn gweithio gydag asiantaethau allweddol yn ardal Cwm Taf Morgannwg i’w helpu i ganfod sut y gallent wella eu gwaith aml-asiantaeth er mwyn cefnogi plant a theuluoedd. Ond caiff yr hyn rydym ni wedi’i ganfod oblygiadau ehangach i dirwedd partneriaethau yng Nghymru.

Yr hyn a ddaeth i’r amlwg oedd bod y rhai sy’n gweithio i gefnogi plant a theuluoedd yn poeni’n fawr am yr hyn a wnânt, a’u bod yn cydnabod bod yn rhaid iddynt gydweithio ar draws ffiniau sefydliadol er mwyn darparu gwasanaethau sy’n ymateb i’r angen.

Fodd bynnag, mae cydweithio yn yr amgylchedd deddfwriaethol, polisi ac ariannol presennol yn heriol.

Daeth adolygiad Llywodraeth Cymru o bartneriaethau strategol yn 2020 i’r casgliad bod “gormod o bartneriaethau” a “gormod o gyfarfodydd”, gyda dryswch ymddangosiadol o ran gwahaniaethu a gorgyffwrdd rhwng y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Mae ein canfyddiadau’n adleisio hyn, ac yn tynnu sylw at y ffaith bod yr ymdrech i gydlynu gweithgareddau sy’n ‘cyd-gysylltu’ yn ‘ychwanegol’ a’r tu allan i fusnes craidd. Mae’n cymryd amser ac ymdrech i gydweithio, ac mewn cyfnod lle mae adnoddau’n cael eu cyfyngu, mae hyn yn dod yn fwyfwy anodd ei gynnal.

Mae’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cynnwys ymrwymiad i “barhau i adolygu trefniadau gweithio mewn partneriaethau rhanbarthol”. Mae adolygiadau blaenorol wedi dod i’r casgliad na fyddai ‘ateb’ a bennir yn genedlaethol i’r dirwedd gymhleth yn briodol. Ond mae ein gwaith yn dangos y gellir gwneud mwy, ac y dylid gwneud mwy, i fynd i’r afael â’r cymhlethdod sy’n cael ei greu gan bolisi cenedlaethol.