Ein Damcaniaeth Newid

Ceir cytundeb eang ar draws amrywiol gymunedau polisi ac ymchwil bod tystiolaeth yn gallu chwarae rhan hanfodol mewn prosesau o drafod democrataidd ar nodau, cynllun a gweithrediad ymyriadau polisi cyhoeddus. Yr her i bawb sy’n gweithio yn rhyngwyneb polisi ac ymchwil yw sut i asesu gwerth (effaith) yr hyn a wnawn.

I fynd i’r afael â’r her hon, dechreuom ni ar broses i ddiffinio ein “damcaniaeth newid”. Lluniom ni fodel o’n ffyrdd o weithio sy’n dechrau gyda’r hyn rydym ni am ei gyflawni, ac sy’n egluro’r berthynas rhwng hynny a phwy ydym ni, beth rydym ni’n ei wneud, sut rydym ni’n ei wneud a beth rydym ni’n ei fesur. Mae wedi bod yn ymdrech tîm, ac wedi profi’n broses hynod o adeiladol a chreadigol. Gyda’n gilydd, rydym ni wedi adnabod pum rôl bwysig a rhyngddibynnol sy’n cynrychioli ehangder yr hyn rydym ni’n ei wneud.

Fel tîm rydym ni yn:

  1. Dehongli anghenion tystiolaeth: drwy gynnal perthnasoedd agos gyda Gweinidogion, swyddogion ac arweinwyr gwasanaeth cyhoeddus, drwy ein rhwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol a thrwy fonitro datblygiadau polisi’n barhaus.
  2. Cynnull tystiolaeth ac arbenigedd: drwy gyd-gynllunio rhaglen ymatebol o gyfuno ymchwil a thystiolaeth i fodloni anghenion tystiolaeth gwneuthurwyr polisi yng Nghymru ar draws amrywiol feysydd polisi, a thrwy hwyluso rhyngweithio rhwng gwneuthurwyr polisi ac arbenigwyr.
  3. Gwella dealltwriaeth o dystiolaeth a pholisïau: drwy gynnal a chyhoeddi ymchwil sy’n cyfrannu at wybodaeth ac ymarfer ar lunio polisi a defnyddio tystiolaeth.
  4. Cyfathrebu tystiolaeth: drwy lunio amrywiaeth o allbynnau hygyrch wedi’u teilwra ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.
  5. Eiriol dros ac adeiladu capasiti i ddefnyddio tystiolaeth: drwy weithredu fel ffynhonnell ddibynadwy o gyngor arbenigol annibynnol, dangos gwerth tystiolaeth ac arbenigedd i bolisi ac ymarfer, hyrwyddo diwylliant yn seiliedig ar dystiolaeth ac adeiladu capasiti o gwmpas defnydd o dystiolaeth.

Gwerth ein damcaniaeth newid yw ei bod yn gadael i ni esbonio i’n partneriaid a’n rhanddeiliaid beth rydym yn ei wneud, sut a pham. Mae’n fframwaith ar gyfer archwilio a yw ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth. Rydym ni wedi adnabod nifer o ffactorau fydd yn ein helpu i ddeall ein heffaith a llywio ein hymarfer yn y dyfodol. Nid mater o rifau yn unig yw hyn. Rydym ni’n datblygu ffyrdd i asesu ansawdd ein perthnasoedd, a sut mae’r rhyngweithio rhwng gwneuthurwyr polisi ac arbenigwyr a drefnir gennym ni yn cynyddu’r awydd ac yn adeiladu capasiti i ddefnyddio tystiolaeth mewn prosesau llunio polisi. Cadwch olwg ar ein gwefan am adroddiadau ar y cynnydd rydym ni wedi’i wneud yn mesur ein heffaith.