Beth ydym ni, ac nad ydym ni’n ei wybod am heneiddio’n well yng Nghymru

Yn ddiweddar gwahoddodd y Ganolfan Dr Anna Dixon, Prif Weithredwr What Works Centre for Ageing Better, i ymweld â ni a chyfnewid gwybodaeth ar heneiddio’n well gyda rhanddeiliaid allweddol yma yng Nghymru mewn trafodaeth a digwyddiad cyhoeddus. Yn y blog hwn, mae Dr Martin Hyde, Athro Cyswllt Gerontoleg yn y Ganolfan Heneiddio Arloesol, Prifysgol Abertawe, yn trafod un o’r materion allweddol a godwyd yn ystod y digwyddiadau hyn: y dirwedd tystiolaeth ar heneiddio yng Nghymru.

Mae poblogaeth sy’n heneiddio yn ffenomen fyd-eang. Heddiw, mae o ddeutu 9% o boblogaeth y byd (650m o bobl) yn 65 oed a throsodd. Rhagwelir y bydd y ganran hon yn cynyddu i yn agos i 17% erbyn 2050 (1.6b o bobl). Nid yw Cymru’n eithriad. Rhagwelir erbyn 2038 y bydd chwarter o’r boblogaeth dros 65 oed. Dylem ddathlu’r llwyddiant hwn. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth fod gwelliannau o ran disgwyliad oes yn arafu ac nad yw pawb yn gallu cyflawni bywyd hŷn da. Felly mae’n hanfodol fod llunwyr polisïau ac ymarferwyr yn gweithio i frwydro’r anghydraddoldebau ymhlith y boblogaeth hŷn. Dylai Cymru fod yn falch iawn o’i gwaith arloesol yn y maes hwn. Hi oedd y wlad gyntaf yn y byd i benodi Comisiynydd Pobl Hŷn i sicrhau bod hawliau a barn pobl hŷn yn cael parch. Bu Llywodraeth Cymru yn rhagweithiol, yn cyhoeddi Strategaeth Pobl Hŷn yng Nghymru am y tro cyntaf yn 2003. Mae gan bron bob Llywodraeth Leol gynllun Heneiddio’n Dda ar waith. Ceir amrywiaeth gwych hefyd o sefydliadau trydydd sector, fel AgeCymru a Chynghrair Pobl Hŷn Cymru, sy’n gweithio gydag ac ar ran pobl hŷn.

Fodd bynnag, er mwyn deall sefyllfa pobl hŷn yng Nghymru a gwybod a yw polisïau ac arferion yn cael effaith ar fywydau pobl hŷn, mae’n hanfodol ein bod yn cael gwybodaeth dda. Yn anffodus, er bod llawer o ymchwil ragorol yn cael ei chynnal yng Nghymru, mae gennym rywfaint o ‘ddiffyg data’ – ansoddol a meintiol – ar heneiddio. Byddwn i’n dweud bod tri maes allweddol y mae angen i ni ymdrin â nhw:

 

1) Dydyn ni ddim yn casglu data ar oed

Oed yw un o’r nodweddion gwarchodedig dan gyfraith y DU. Eto i gyd rwyf i’n cael fy synnu’n barhaus cyn lleied o sefydliadau sy’n cofnodi oed wrth fynd ati i gasglu data. Diolch i sylw cynyddol ar anghydraddoldeb rhywedd yn y gweithle mae’n iawn fod disgwyl i gyflogwyr adrodd ar gyfansoddiad rhywedd eu gweithlu, tâl ac ati. Ond pan wyf i wedi holi am wybodaeth am gyfansoddiad oed gweithluoedd yng Nghymru, er enghraifft, dywedir wrthyf i nad yw hyn yn cael ei gasglu ym mhob man. Nid yw Cymru yn unigryw yn hyn o beth. Dangosodd adroddiad diweddar gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu mai dim ond 17% o gyflogwyr y DU sy’n monitro cyfansoddiad oed eu gweithlu. Mae hyn yn drueni oherwydd ceir tystiolaeth o wledydd eraill bod gweithluoedd sydd â mwy o amrywiaeth o ran oed yn perfformio’n well. Ond heb yr wybodaeth hon yng Nghymru nid yw’n bosibl gweld a yw hyn yr un fath yma. Mae sicrhau bod yr holl sefydliadau’n casglu data ar oed, ynghyd â rhywedd, ethnigrwydd ac ati, yn rhywbeth y gallem ni ei wneud yng Nghymru gan arwain yn y DU.

 

2) Dydyn ni ddim yn casglu data gwerthuso (priodol) wrth gynnal ymyriadau.

Ers i mi symud i Gymru mae’r nifer o fentrau a gaiff eu rhedeg gydag oedolion hŷn wedi gwneud argraff dda arnaf i. Ond rwyf i hefyd yn mynd yn rhwystredig o weld cyn lleied o wybodaeth sy’n cael ei chasglu am y gweithgareddau hyn. Mae hyn yn drueni mawr oherwydd gallai’r wybodaeth hon fod yn hanfodol drwy helpu i asesu pa weithgareddau sy’n gweithio, pryd maen nhw’n gweithio ac i bwy maen nhw’n gweithio. Unwaith eto, nid yw Cymru’n unigryw yn hyn o beth, gan fod hyn yn fater cyffredin mae llywodraeth leol a chyrff trydydd sector yn ei wynebu. Fe wn fod rhywfaint o hyn yn digwydd oherwydd diffyg adnoddau a/neu ddiffyg ymwybyddiaeth o’r hyn mae cynnal gwerthusiad yn ei olygu. Felly, rwyf i’n credu y dylai fod mwy o gyfrifoldeb ar y cyllidwyr i bennu’n glir pa fath o ddata sydd ei angen, rhoi amcangyfrifon realistig o’r adnoddau sydd eu hangen a chyfeirio ymgeiswyr at ganllawiau da ar sut i wneud hyn. Ond rwyf i hefyd yn meddwl y gallwn ni wneud mwy yng Nghymru, er enghraifft drwy ddod â llywodraeth leol, cyrff trydydd sector a Phrifysgolion at ei gilydd i redeg ‘gweithdai gwerthuso’ i helpu grwpiau i gasglu’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Mae angen hefyd i ni wella wrth gofnodi a chatalogio canlyniadau gwerthuso, ac yn ddelfrydol, archwilio ffyrdd i greu cronfa o ddata i gynnal astudiaethau mwy o faint, mwy pwerus neu feta-ddadansoddiadau.

 

3) Diffyg astudiaeth gynrychioliadol sy’n dilyn pobl wrth iddyn nhw heneiddio

I fi dyma’r bwlch pwysicaf sydd angen i ni ei drin. Os ydym ni wir am ddeall y profiad o heneiddio yng Nghymru yna mae angen i ni gasglu data ar unigolion wrth iddyn nhw heneiddio. Er enghraifft os ydych chi’n cymharu iechyd pobl sydd wedi ymddeol â phobl sy’n gweithio gallech ganfod fod y rheini mewn gwaith yn fwy iach. Yna gallai hyn eich arwain i dybio bod ymddeol yn ddrwg i’ch iechyd (ac y dylem ni i gyd aros yn y gwaith cyhyd ag y bo’n bosibl). Ond efallai fod pobl wedi ymddeol oherwydd iechyd gwael yn y gwaith. Felly byddai eich rhagdybiaeth a’ch neges polisi’n anghywir. Yn y sefyllfa hon yr hyn sydd ei angen yw mesuriad o iechyd yr un bobl cyn ac ar ôl ymddeol. Gelwir hyn yn ddata hydredol. Mae gan Gymru hanes gwych o astudiaethau hydredol o’r fath e.e. Astudiaeth Hydredol Bangor ar Heneiddio. Ond yn wahanol i wledydd eraill y DU, nid oes gennym ni astudiaeth hydredol genedlaethol o heneiddio yng Nghymru. Mae astudiaethau fel ELSA yn Lloegr a NICOLA yng Ngogledd Iwerddon yn creu darlun diddorol o heneiddio yn y gwledydd hyn. Ond yng Nghymru rydym ni’n cael ein gadael ar ôl yn gyflym iawn.

Mae gan Gymru draddodiad gwych o hyrwyddo hawliau a lles ei phoblogaeth hŷn. Mae llawer i ymfalchïo ynddo yn yr hyn sydd wedi’i gyflawni eisoes. Ond os ydym ni wir am wireddu ein potensial i fod y wlad orau yn y byd i heneiddio ynddi yna mae angen sail tystiolaeth o’r radd flaenaf i gyd-fynd a’n dyheadau byd-eang.