Beth allai gwyddoniaeth gweithredu a pharatoi gwybodaeth ei olygu i Ganolfannau ‘What Works’?

Dim ond dau cysyniad yw gwyddoniaeth gweithredu (IS) a pharatoi gwybodaeth (KMb) mewn cyfoeth o syniadau a thermau a ddatblygwyd dros y degawdau diwethaf i gulhau’r blwch rhwng cynhyrchu gwybodaeth a’i defnyddio mewn polisïau ac ymarfer. Mae termau eraill yn cynnwys brocera gwybodaeth, trosglwyddo gwybodaeth, cyd-gynhyrchu, gwyddoniaeth lledaenu, a chyfnewid gwybodaeth. Datblygwyd y rhan fwyaf ohonynt i fod yn berthnasol i faes iechyd, yr amgylchedd a meysydd polisi ac ymarfer eraill sydd â chefndir gwyddoniaeth, er bod Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) a chyfryngwyr tystiolaeth eraill (fel Canolfannau ‘What Works’ a sefydliadau polisi prifysgolion eraill) yn ceisio addasu’r rhain a’u cymhwyso i bolisi cymdeithasol.

Yn y Deyrnas Unedig, mae 14 o Ganolfannau ‘What Works’ (WWCs) a chysylltiadau wedi’u creu dros y ddegawd ddiwethaf er mwyn trosi tystiolaeth yn bolisi ac ymarfer. Mae eu gwaith yn anelu at lywio gyda thystiolaeth sut y caiff £250 biliwn ei wario bob blwyddyn mewn meysydd fel digartrefedd, addysg neu blismona. Gan fod y rhan fwyaf ohonynt bellach wedi bod wrthi ers sawl blwyddyn, maent yn archwilio sut i wella a gwerthuso sut mae’r dystiolaeth y maent yn ei chynhyrchu yn cael ei defnyddio. Mae dau WWC, y Gronfa Gwaddol Addysg a’r Sefydliad Ymyrraeth Gynnar, wedi archwilio potensial gwyddoniaeth ymddygiadol i ddatblygu cynllun paratoi gwybodaeth ar gyfer hyrwyddo dysgu cymdeithasol ac emosiynol mewn ysgolion. Mae WCPP yn rhan o’r Rhwydwaith What Works. Roeddem o’r farn y byddai’n ddefnyddiol egluro’r hyn a olygwn wrth siarad am dermau fel gwyddoniaeth gweithredu a pharatoi gwybodaeth – a ddefnyddir yn aml ar y cyd, ond gydag ystyron gwahanol, er yn gysylltiedig.

 

Gwyddoniaeth Gweithredu (IS)

Daeth IS i’r amlwg fel ffordd i lenwi’r bwlch rhwng ymchwil ac effaith. Fe geisiodd fynd i’r afael â’r ffaith fod y rhan fwyaf o gasgliadau ymchwil – 85% mewn ymchwil iechyd – byth yn cael eu gweithredu. Gellir ei ddiffinio fel (cyfieithiad):

“astudiaeth wyddonol o ddulliau i hyrwyddo’r defnydd systematig o ganfyddiadau ymchwil ac arferion eraill sy’n seiliedig ar dystiolaeth mewn ymarfer arferol, ac, felly, i wella ansawdd ac effeithiolrwydd gwasanaethau iechyd” (Eccles a Mittman, 2006)

Mae IS yn tarddu o iechyd ac yn canolbwyntio ar drosi tystiolaeth yn ymarfer. Mae’n canolbwyntio ar sut a pham y gall tystiolaeth lywio ymarfer, nid yn unig ymarfer clinigwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, ond hefyd nodi ffactorau o fewn y gwasanaeth iechyd, polisi a chyd-destunau cymdeithasol ehangach a allai rwystro neu hwyluso’r broses o ‘fwydo’ tystiolaeth i mewn i ymarfer. Hynny yw, ei nod yw meithrin gwybodaeth am yr hyn sy’n gweithio, ble a pham (Bauer et al., 2015), gan ddefnyddio, er enghraifft, dreialon ar hap i ynysu ffactorau penodol. Mae hefyd yn cynnwys elfen o werthuso, gan edrych ar ba mor dda mae tystiolaeth yn sail i unrhyw ymarfer.

Felly mae’r awydd newydd i gymhwyso gwyddoniaeth gweithredu i bolisi yn her. Mae dibyniaeth IS ar fodelau a fframweithiau yn ei gwneud yn ddewis deniadol i’r rheiny ar bob ochr i’r rhaniad gwybodaeth-polisi-ymarfer sy’n mynd i’r afael â sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei defnyddio fwy. Serch hynny, oherwydd bod IS yn arfer rhyngddisgyblaethol, gan ddwyn ynghyd gwybodaeth a chysyniadau o ddisgyblaethau fel economeg, seicoleg (yn benodol ei agwedd ar newid ymddygiad) a chymdeithaseg, gall fod yn berthnasol i feysydd y tu allan i iechyd, fel gwaith cymdeithasol, addysg a rheoli gwastraff.

 

Paratoi Gwybodaeth

Ar ei fwyaf sylfaenol, mae Paratoi Gwybodaeth (KMb) yn cyfeirio at y berthynas rhwng ymchwil ac ymarfer. Yn wahanol i dermau cyfnewid gwybodaeth neu drosglwyddo gwybodaeth a ddefnyddiwyd yn flaenorol, mae Levin yn dadlau bod KMb yn pwysleisio cysylltiadau a chymhlethdod aml-gyfeiriadol, yn arbennig rhai gwleidyddol, sy’n berthnasol pan fydd ymchwil yn llywio ymarfer. Mae KMb yn canolbwyntio ar yr wybodaeth sydd i’w pharatoi, y broses o baratoi, ac effaith gwybodaeth ar ymarfer. I Huw Davies a’i gydweithwyr, mae’n gyfystyr â “dulliau i annog defnydd o ymchwil”. Mae KMb, yn wahanol i IS, hefyd yn ymddangos yn fwy perthnasol i wyddorau cymdeithasol nag i iechyd; er fod Davies et al. yn defnyddio’r term hwnnw yng nghyd-destun gofal iechyd y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, mae gan IS hefyd ddiddordeb cynyddol yn yr agwedd gymdeithasol ar drosi tystiolaeth yn ymarfer. I grynhoi, mae ffiniau a diffiniadau IS a KMb yn parhau i esblygu wrth iddynt barhau i gael eu defnyddio mewn gwahanol gyd-destunau.

Felly, fel sy’n digwydd yn aml gyda thermau poblogaidd, mae diffiniadau amrywiol o ran paratoi gwybodaeth, er enghraifft mae David Phipps yn gweld KMb yn berthnasol i bolisi yn ogystal ag ymarfer. I Ganolfan Ragoriaeth Ontario ar gyfer Iechyd Plant a Meddwl :

“Nid yw paratoi gwybodaeth ynymwneud â rhannu, neu gyhoeddi, na llif gwybodaeth unffordd yn unig. Mae’n ymwneud ag ymgysylltu, cyfranogiad defnyddwyr terfynol a sylw i effaith”.

Felly, mae’n ymddangos bod KMb yn cwmpasu nifer o gysyniadau – e.e. brocera gwybodaeth, cyd-gynhyrchu, lledaenu – i gael gwybodaeth gan gynhyrchwyr i ddefnyddwyr.

Lle ystyrir yn aml fod IS yn ymwneud yn bennaf â rhaglenni a modelau gweithredu o’r top i lawr, mae KMb yn fwy ‘anniben’ a hyblyg, gan ganolbwyntio ar brosesau a pholisïau. Oherwydd eu bod yn canolbwyntio ar drosi tystiolaeth yn ymarfer, ond yn dod ati o wahanol safbwyntiau a chyda gwahaniaethau mewn offer a phrosesau, mae IS a KMb yn adnoddau defnyddiol ar gyfer cynhyrchwyr, broceriaid a defnyddwyr tystiolaeth. Yr hyn sy’n bwysig yw peidio â chael ein llesteirio gan dadleuon diffiniol am ba fodelau sy’n gweithio orau, ond yn hytrach archwilio’r amrywiaeth o fodelau, canfyddiadau ac adnoddau sydd ar gael ar draws y ddwy ddisgyblaeth i brofi ac arbrofi gyda beth sy’n gweithio mewn cyd-destun penodol. Fodd bynnag, rydym yn bwriadu archwilio gwahanol fodelau ac adnoddau mewn blog pellach yn y dyfodol wrth i’n prosiect ar weithredu gyda’r Canolfannau What Works esblygu.