Argyfwng gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru: beth sy’n ei achosi a beth sy’n cael ei wneud i’w ddatrys?

Y neges gyson mewn cyflwyniadau diweddar i ymchwiliad y Senedd ar y strategaeth gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw bod y gweithlu gofal cymdeithasol mewn ‘argyfwng’. Mae gwasanaethau’n cael trafferth dod o hyd i staff neu eu cadw. Ac, wrth gwrs, mae darparu gofal o ansawdd uchel yn dibynnu ar y gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol sydd â’r sgiliau, y gallu a’r cymhelliant i ofalu am y rhai mewn angen. Prinder staff yw’r prif reswm dros y dirywiad yn ansawdd y gofal, gan gael effaith sydyn ac ar brydiau, dinistriol, ar staff a chleifion.

Nid problem i ofal cymdeithasol yn unig yw’r ‘argyfwng’ hwn. Mae iechyd a gofal cymdeithasol yn gwbl ddibynnol ar ei gilydd – mae system gofal cymdeithasol well yn lleihau’r baich ar ofal iechyd ac i’r gwrthwyneb. Ac eto mae staff iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio mewn dwy system ar wahân, gyda gwahanol ddeddfwriaeth, mecanweithiau ariannu a rheoliadau. Er bod problemau gweithlu yn y ddau, mae’r canlyniadau i’w teimlo’n fwy difrifol ym maes gofal cymdeithasol.

Nid problem i Gymru yn unig yw hon ychwaith; mae llawer o’r achosion a’r canlyniadau i’w teimlo ledled y DU. Yma rydym yn archwilio sut mae’r rhain yn effeithio ar weithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, a’r ymdrechion i fynd i’r afael â’r argyfwng gweithlu yng Nghymru.

 

Beth sy’n achosi’r argyfwng gweithlu yng Nghymru?

Mae pob gweithlu ar fympwy grymoedd cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Ar gyfer gofal cymdeithasol, mae’r rhain yn cyfuno i greu storm berffaith, gan effeithio ar y galw a’r cyflenwad o staff.

Nid oes digon o weithwyr gofal cymdeithasol ac mae gormod o bobl angen gofal. Yn ôl y cyfrifiad diweddaraf mae nifer y bobl sy’n byw yng Nghymru wedi codi bron i 20 y cant ers y 1950au, ac mae un o bob pump o’n poblogaeth o 3.1 miliwn bellach yn 65 oed neu’n hŷn. Mewn rhai rhanbarthau yng Nghymru, mae pobl hŷn yn cyfrif am 27.8 y cant o gyfanswm y boblogaeth. Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio daw anghenion iechyd cynyddol gymhleth a bydd y galw hwn yn debygol o gael ei ddwysáu gan yr argyfwng costau byw a’i effaith ar iechyd a lles.

Effeithiwyd ar gyflenwad staff gan lai o fewnfudo ers Brexit, a nifer cynyddol o staff gofal cymdeithasol yn chwilio am waith ym maes gofal iechyd, manwerthu a lletygarwch. Cynyddodd nifer y swyddi gwag ar gyfer staff gofal cymdeithasol ledled y DU 124 y cant rhwng Ionawr 2019 a Chwefror 2022. Ym mis Medi 2021 roedd adroddiadau bod 700 o swyddi gwag yn y sector gofal yng Nghymru.

Mae cyfraddau uchel o swyddi gwag yn gysylltiedig â chyflogau gwael, rheoleiddio ac amodau gwaith. Roedd gweithwyr gofal cymdeithasol yn arfer cael eu talu premiwm dros alwedigaethau eraill fel manwerthu a lletygarwch, gyda chyflog fesul awr dros 5 y cant yn fwy yn 2011. Gostyngodd y premiwm hwn i 1 y cant yn unig yn 2021. Mae gwahaniaethau rhwng iechyd a gofal cymdeithasol hefyd wedi cynyddu, gyda thelerau, amodau a dilyniant yn cael eu rheoleiddio a’u safoni’n well mewn gofal iechyd. Er bod system reoleiddio ac arolygu genedlaethol yng Nghymru, mae darpariaeth gofal cymdeithasol yn dameidiog iawn. Mae nifer o gyflogwyr, dim un corff unigol ar gyfer pennu tâl, a phennir y pris a delir am ofal gan Awdurdodau Lleol gan drafodaethau unigol rhwng comisiynwyr a darparwyr annibynnol.

Cafodd amodau gwaith gwael ganlyniadau trychinebus ar staff gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig COVID-19. Roedd cyfraddau marwolaethau COVID-19 ar gyfer gweithwyr gofal preswyl a chartref ddwbl y cyfraddau ar gyfer gweithwyr gofal iechyd. Mae gweithwyr gofal yng Nghymru wedi adrodd ar y ffactorau a oedd yn eu rhoi mewn perygl yn ystod y pandemig: diffyg Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) a PPE o ansawdd gwael; tâl salwch statudol gwael; contractau achlysurol neu ddim oriau; a’r gofyniad i roi’r gorau i gyflogaeth ychwanegol, ymhlith eraill. Aeth y rheiny a oedd yn teimlo eu bod yn cael eu tanbrisio, eu tangyflogi a nad oeddent yn cael eu cefnogi’n ddigonol drwy’r pandemig ati i geisio cyflogaeth arall.

Nid yw gofal cymdeithasol yn cael ei werthfawrogi’n ddigonol, yn rhannol oherwydd ei fod yn cael ei danariannu’n barhaus. Gostyngodd cyllid gofal cymdeithasol bron i 2 y cant y flwyddyn rhwng 2010 a 2015 ac o’i addasu ar gyfer nifer cynyddol y bobl sydd angen gofal, mae’r gostyngiad mewn cyllid yn parhau i fod yn sylweddol. Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU ym mis Medi 2021 o fuddsoddiad cynyddol mewn gofal cymdeithasol yn cynyddu’r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, ac er nad yw’n glir sut y bydd hwn yn cael ei ddefnyddio, mae’n amlwg na fydd yn ddigonol. Mae’r argyfwng costau byw eisoes yn cyflymu, gyda phrisiau petrol uwch yn effeithio’n andwyol ar staff gofal cymdeithasol, a chynnydd mewn costau gwresogi a bwyd yn effeithio ar y gofal a ddarperir. Er mwyn gwella ansawdd gofal, mae angen gweithlu medrus sy’n cael ei dalu’n briodol; mae tanfuddsoddi hirdymor yn y system yn awgrymu y gallai’r uchelgais hwn fod yn anodd ei wireddu.

Er mwyn llywio’r amrywiaeth gymhleth hon o ffactorau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol mae angen dull cydlynol a chynhwysfawr, cyn i’r argyfwng hwn droi yn fethiant llwyr.

 

Beth sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r argyfwng?

Mae darnau allweddol o ddeddfwriaeth a pholisi datganoledig yn gosod y fframwaith ar gyfer mynd i’r afael â materion gweithlu gofal cymdeithasol, yn arbennig Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2018) a strategaeth y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2020). Mae elfennau cyffredin ar draws y rhain, gan wthio am ddarpariaeth ‘ddi-dor’ ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, ac ymdrechion cynyddol i fynd i’r afael â’r galw trwy fesurau iechyd poblogaeth ataliol. Mae gwerth y gweithlu yn nodwedd ganolog, ac un o’r pedwar piler llwyddiant yw datblygu gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol brwdfrydig a chynaliadwy.

Er gwaethaf y fframwaith polisi cefnogol hwn, mae Cymru yn dal i wynebu argyfwng gweithlu acíwt. Mewn ymgynghoriad diweddar, roedd llawer yn canmol y strategaeth gweithlu ‘rhagorol’ ond gan dynnu sylw at yr heriau o fynd i’r afael â’r argyfwng tra’n rhoi sylw i ddarparu gofal gyda gweithlu annigonol. Mae’r addewid i weithredu’r cyflog byw go iawn ar gyfer staff gofal cymdeithasol wedi’i groesawu, ond yn cael ei ystyried yn annigonol, gyda llawer yn tynnu sylw at y ffaith y dylai cyflog teg fod yn strategaeth gyflog briodol, wedi’i negodi’n llawn, sy’n cydnabod lefelau gwahanol o ran sgiliau a chyfrifoldebau ac yn talu yn unol â hynny.

Mae gwaith pellach yn cael ei gynnal i geisio mynd i’r afael â’r heriau hyn. Mae Fforwm Gwaith Gofal Cymdeithasol wedi’i sefydlu i ddod â’r llywodraeth, cyflogwyr ac undebau ynghyd i adolygu tâl, telerau ac amodau gweithwyr gofal.  Mae grŵp arbenigol wedi’i sefydlu i archwilio’r broses o greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, a disgwylir argymhellion yn fuan. Mae’r Papur Gwyn ar ‘ail-gydbwyso gofal a chymorth’ yn cynnwys ymrwymiad i sefydlu fframwaith comisiynu cenedlaethol i fynd i’r afael â’r rhaniad mewn darpariaeth gofal cymdeithasol, a gwella telerau ac amodau ar draws y sector yng Nghymru.

 

A fydd hyn yn ddigon?

Mae’r ymdrechion i fynd i’r afael â’r argyfwng gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn sylweddol. Mae polisïau’n amlinellu’r angen i drwsio’r gwasanaethau gofal cymdeithasol darniog, a gwella’r broses o integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, i gleifion ac i’r gweithluoedd sy’n darparu gofal. Mae’r ymdrechion hyn yn gweithredu mewn cyd-destun cymdeithasol ac economaidd cynyddol heriol. Rydym eto i weld a oes modd gwireddu dyheadau polisi system integredig sy’n darparu hyfforddiant, cyllid a chymorth i staff yn ddigon cyflym i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn.