Atal Digartrefedd Pobl Ifanc

Ym Mehefin 2018 cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai’n gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gyfrannu i ymchwil at atal digartrefedd pobl ifanc. Yr adolygiad rhyngwladol o dystiolaeth fan hyn, a’r adroddiad ategol sy’n mapio ymyrraeth yng Nghymru, yw’r cyfraniad hwnnw.

Yng nghyd-destun y symud byd-eang tuag at atal, mae’r adolygiad ryngwladol yn nodi ymyriadau yn seiliedig ar dystiolaeth, arferion addawol, blaenoriaethau atal a nodwyd gan bobl ifanc, ac elfennau polisi sy’n croestorri sydd yn cyfrannu at atal digartrefedd pobl ifanc. Mae’r adolygiad o’r dystiolaeth yn cael ei arwain gan y cwestiynau canlynol:

  • Pa ffactorau (neu batrymau o ffactorau) y mae’n hysbys eu bod yn cynyddu risg o ddigartrefedd pobl ifanc?
  • Pa bolisïau a rhaglenni sydd yn effeithiol o ran atal digartrefedd ieuenctid?
  • Beth yw nodweddion strategaethau effeithiol er mwyn atal digartrefedd pobl ifanc?
  • Pa dystiolaeth sydd ei hangen o hyd er mwyn cefnogi atal digartrefedd pobl ifanc, a sut ellid ei chynhyrchu?

Mae’r adroddiad yn defnyddio asesiad gofalus o’r gronfa ddata hon er mwyn datblygu set o argymhellion er mwyn dargyfeirio pobl ifanc yn effeithiol rhag profi digartrefedd.