Effaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar safbwyntiau llunwyr polisïau a’r defnydd o dystiolaeth yng Nghymru

Statws prosiect Ar Waith

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) yn gorff brocera gwybodaeth. Ei brif nod yw gwella prosesau llunio polisïau cyhoeddus, dylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus, drwy hyrwyddo diwylliant ac ymagweddu tuag at ddefnyddio tystiolaeth. Mae’n gweithio gydag academyddion ac arbenigwyr i ddarparu tystiolaeth ymchwil o safon uchel a chyngor annibynnol i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru er mwyn llywio penderfyniadau polisi a gwella canlyniadau.

Mae llenyddiaeth sy’n tyfu ar gyrff brocera gwybodaeth wedi ceisio gwerthuso pa mor effeithiol yw eu harferion, ond mae llawer ohono wedi bod yn ymwneud â’u gallu i achosi newidiadau gwirioneddol i bolisïau. Cymharol ychydig o ganolbwyntio a fu ar y ffordd y mae’r cyrff hyn yn dylanwadu ar y broses bolisïau drwy effeithio ar y ffordd y mae llunwyr polisïau’n deall eu gwaith fel rheol.

Bydd ein dulliau ymchwil ansoddol cymysg yn rhoi asesiad beirniadol, manwl o’n hymagwedd tuag at weithio gyda Llywodraeth Cymru. Ein nod yw cynhyrchu dealltwriaeth ynghylch pryd, ym mha ffyrdd ac o dan ba amodau mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, fel un rhan o’r system ehangach o gynghori ar bolisïau yng Nghymru, wedi llywio llunio polisïau.

Bydd ein canfyddiadau’n llywio sut rydym ni’n gweithio, ac yn cyfrannu at ddamcaniaethau a dulliau o ran y berthynas rhwng llywodraethu, polisi cyhoeddus a thystiolaeth.