Mae Cymru yn wynebu nifer o heriau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol. O COVID-19, Brexit, datganoli pwerau ymhellach, y sgwrs gynyddol am annibyniaeth, i nodau datblygu cynaliadwy a lles cenedlaethau’r dyfodol, bydd sut mae Cymru’n llywio’r cwestiynau hyn yn hanfodol ar gyfer ei dyfodol.
Ar 18 Medi 2020 fe wnaethom ni, ynghyd â’n cydweithwyr yn WISERD (Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd) gynnal gweminar lle bu Carwyn Jones MS (cyn Brif Weinidog), Auriol Miller (Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig), a Rachel Minto (Canolfan Llywodraethu Cymru, Prifysgol Caerdydd) yn trafod y taflwybrau a’r blaenoriaethau a fydd yn nodweddu gwleidyddiaeth a pholisi Cymru dros y degawd nesaf.
Cadeiriwyd y sesiwn gan Dr Matthew Wall o Brifysgol Abertawe.
Gwyliwch recordiad y digwyddiad isod.