Ymyriadau ym maes cam-drin domestig yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried yr ymyriadau a ddefnyddir i fynd i’r afael â cham-drin domestig ac i gadw pobl yn ddiogel, gan osod y rhain yng nghyd-destun deddfwriaethol Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru edrych o’r newydd ar y dystiolaeth ynghylch ymyriadau i gadw pobl yn ddiogel, ac yn benodol y dystiolaeth ryngwladol ynghylch darparu gwasanaethau. Gofynnodd i’r Ganolfan ystyried hefyd sut roedd y Ddeddf wedi’i datblygu a’i rhoi ar waith. Mae’r papur hwn yn ystyried sut y darperir lloches yng Nghymru, yr ymyriadau eraill sy’n cyd-fynd ac sy’n lleihau’r angen i ddarparu lloches, a sut y mae’r Ddeddf wedi’i rhoi ar waith. Gwnaed hyn drwy adolygu’r dystiolaeth ryngwladol, a thrwy ymwneud â’r prif rhanddeiliaid yn y maes trais a cham-drin domestig.

Comisiynwyd yr adroddiad hwn yn 2019, a chafodd ei gwblhau cyn pandemig y Coronafeirws. O ganlyniad, nid yw’n rhoi sylw i ddatblygiadau – yn bolisïau ac yn ddigwyddiadau – ers mis Mawrth 2020. Fodd bynnag, mae canfyddiadau’r adroddiad yr un mor berthnasol a phwysig – os nad yn fwy felly – ac ystyried y dystiolaeth o gynnydd mewn cam-drin domestig yn ystod y cyfyngiadau symud.