Gwella Canlyniadau Iechyd a Chyflogaeth

Er bod diweithdra’n isel yng Nghymru ar hyn o bryd o gymharu â’r degawdau diwethaf, mae anweithgarwch economaidd oherwydd salwch yn dal i fod yn uchel, ac mae ein hadroddiad diweddaraf yn rhoi tystiolaeth o’r ffyrdd y gellir mynd i’r afael â hyn drwy ganolbwyntio ar strwythurau a phrosesau partneriaethau.

Y mathau mwyaf cyffredin o salwch sy’n effeithio ar allu unigolyn i aros yn y gwaith yw iechyd meddwl gwael ac anhwylderau cyhyrysgerbydol. Mae’r adroddiad yn cyflwyno tystiolaeth o’r ffyrdd y gall sefydliadau gydweithio’n fwy effeithiol i naill ai leihau nifer y bobl sy’n gadael gwaith oherwydd y problemau hyn neu gynyddu nifer y bobl sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl salwch.

Mae’r prif negeseuon yn yr adroddiad yn ymwneud â’r ffordd y gellir prif ffrydio’r gwersi sy’n cael eu dysgu o’r dystiolaeth yn rhan o ddulliau asiantaethau rhanddeiliaid o gydweithio er mwyn newid arferion gwaith a gwella canlyniadau yn yr hirdymor.

Y brif wers o’r dystiolaeth yw pwysigrwydd cyd-gynhyrchu ymyriadau â’r holl bartneriaid perthnasol sy’n rhan o’r broses o’r cychwyn cyntaf; drwy nodi’r problemau, yr atebion a phwy sy’n gyfrifol ar bob cam. Drwy weithredu yn y ffordd hon, gall gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cyflogaeth a chyflogwyr gytuno ar ganlyniadau ar y cyd, deall safbwyntiau ei gilydd a chael eu dwyn i gyfrif am bob cam o’r broses.

Y neges arall i lunwyr polisi yw pwysigrwydd cadw at bob agwedd ar ymyriadau llwyddiannus. Mae llawer o enghreifftiau o ymyriadau llwyddiannus sy’n helpu pobl i ddychwelyd i’r gwaith, sy’n cynnwys nifer o gamau ac sy’n gofyn am gefnogaeth barhaus. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod y modelau hyn wedi bod yn fwyaf llwyddiannus yn yr ardaloedd a oedd wedi’u mabwysiadu’n fanwl. I’r gwrthwyneb, gwelwyd canlyniadau llai cadarnhaol mewn ardaloedd a oedd wedi ceisio mabwysiadu dim ond rhai o elfennau’r ymyriadau.

Felly, mae ymyriadau effeithiol a chynnar a gyd-gynhyrchwyd drwy ddefnyddio tystiolaeth sy’n bodoli eisoes a chadw at enghreifftiau sicr o’r hyn sy’n gweithio yn hollbwysig i’r agenda hon.

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg ar gais.