Defnyddio Sectorau Twf i Leihau Tlodi

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried sut y gall sectorau twf leihau tlodi drwy gynnig swyddi a chyfleoedd o ansawdd uchel i gamu ymlaen mewn gyrfa.

Ar sail yr ymchwil a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ac a gynhaliwyd gan yr Athro Anne Green, Dr Paul Sissons a Dr Neil Lee, mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad bod rhai sectorau twf – megis gwasanaethau llety a bwyd, gofal preswyl, manwerthu, amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota – yn agor drysau i’r farchnad lafur. Fodd bynnag, mae cyflogau isel yn golygu bod llawer o gyflogeion yn dioddef o dlodi mewn gwaith. Oherwydd hyn, nid yw helpu pobl i gael gwaith yn ddigon. Mae angen i ddull sectorol hefyd eu galluogi i symud ymlaen i swyddi o ansawdd uwch sy’n talu’n well.

Mae’r adroddiad yn gofyn am bolisïau sy’n ystyried cyflwr y farchnad lafur yn lleol ac sy’n annog cyflogwyr, y llywodraeth, undebau llafur ac eraill i weithredu ar y cyd er mwyn helpu pobl i ddatblygu eu gyrfaoedd a hyrwyddo twf economaidd cynhwysol yn lleol.

Mae’r awduron yn dadlau o blaid polisïau diwydiannol sy’n seiliedig ar le sy’n dod â rhanddeiliaid lleol ynghyd i wella ansawdd swyddi mewn sectorau megis y sector iechyd a gofal cymdeithasol a’r sector llety a bwyd, sy’n bwysig i lawer o economïau lleol yng Nghymru. Maent yn dadlau bod yn rhaid i strategaethau datblygu economaidd a pholisïau cyflogaeth a sgiliau lleol ymateb i newidiadau i fodelau busnes a chynlluniau swyddi mewn sectorau cyflog isel er mwyn paratoi gweithwyr ar gyfer y dyfodol.

Gall sefydliadau angori lleol, megis prifysgolion, ysbytai ac awdurdodau lleol, chwarae rôl bwysig i wella ansawdd swyddi a chyflogaeth yn lleol drwy weithredu arfer da mewn perthynas â chyflog ac amodau a datblygu cadwyni cyflenwi ac arferion caffael sy’n hyrwyddo swyddi o ansawdd uchel.

Mae angen i gyngor ar yrfaoedd gael ei deilwra yn ôl yr amgylchiadau’n lleol a helpu’r rhai mewn swyddi cyflog isel i symud ymlaen, er enghraifft, drwy symud i sectorau sy’n cynnig swyddi o ansawdd uwch.