Cyfuno dull cyflawni wyneb yn wyneb ac ar-lein mewn gwasanaethau llesiant cymunedol

Ar ôl symud yn gyflym ‘ar-lein’ yn ystod cyfyngiadau’r coronafeirws a dychwelyd wedyn at weithgarwch wyneb yn wyneb, mae gwasanaethau lles yn y gymuned ar draws Cymru yn wynebu’r her o sut i ‘gyfuno’ darpariaeth ddigidol ac wyneb yn wyneb yn dilyn y pandemig.

Nod ein hymchwil, a gyflwynwyd ar y cyd â Frame CIC, oedd dysgu mwy am hyn gan sefydliadau ac ymarferwyr, er mwyn deall beth sy’n gweithio’n dda o ran cyfuno dulliau ar-lein ac all-lein ac i’n helpu i fyfyrio ar sut y gallai cyllidwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau gefnogi hyn i sicrhau bod y ddarpariaeth yn y dyfodol mor effeithiol, hygyrch a theg â phosib.

CLICIWCH YMA AM YR ADRODDIAD LLAWN

Cadarnhaodd ein hymchwil fod darpariaeth gyfunol neu hybrid bellach yn cael ei gyflwyno ledled Cymru, ar wahanol raddfeydd ac mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd. Yn gyffredinol, mae hyn yn digwydd i ateb y galw gan gymunedau neu i geisio cael canlyniadau gwell i ddefnyddwyr gwasanaeth. Serch hynny, mae rhai sefydliadau hefyd wedi cael eu cymell gan gyfyngiadau ar adnoddau a’r angen i wneud arbedion o ran effeithlonrwydd.

Ar sail cyfweliadau ag ymarferwyr, mae’r adroddiad yn rhoi manylion am fanteision a heriau posib darpariaeth gyfunol i sefydliadau a defnyddwyr gwasanaethau.

Un neges allweddol yw, pan fo integreiddio darpariaeth ar-lein ac wyneb yn wyneb yn cael ei gynllunio’n ofalus, mae potensial i ddefnyddwyr gwasanaeth brofi manteision sy’n atgyfnerthu ei gilydd, sydd ddim yn cael eu cynnig gan ddarpariaeth ddigidol neu wyneb yn wyneb ar eu pen eu hunain.

Fe wnaeth ein hymchwil ganfod fod dulliau cyfunol yn dangos yr addewid mwyaf pan fyddan nhw’n cael eu dylunio a’u darparu’n fwriadol fel ffordd o ychwanegu gwerth at wasanaethau a chefnogi nodau strategol.

Mae darpariaeth gyfunol hefyd yn gweithio orau pan fo’n cael ei dylunio gyda defnyddwyr gwasanaeth ac nid ar eu rhan, wedi’i llywio gan adborth cymunedol neu gan ddefnyddwyr, gyda’r parodrwydd i ddysgu ac addasu yn unol â mewnwelediadau, gwybodaeth a phrofiad newydd.

Un o’r prif resymau dros gyflwyno darpariaeth hybrid yw bod gwahanol ‘sianeli’ ar-lein ac wyneb yn wyneb yn gweithio orau i wahanol grwpiau ar wahanol adegau.

Er mwyn sicrhau cydraddoldeb o ran mynediad a phrofiad cyfartal, mae angen integreiddio sianeli digidol a sianeli wyneb yn wyneb yn ofalus a sicrhau buddsoddiad cyfartal. Rydym wedi cynnwys straeon ac enghreifftiau o sut mae sefydliadau wedi gwneud hyn yn yr adroddiad.

Mewn trafodaeth bwrdd crwn a fynychwyd gan ymarferwyr, cyllidwyr ac amrywiaeth o randdeiliaid eraill â diddordeb, fe wnaeth cyfranogwyr fyfyrio ar ganfyddiadau’r ymchwil a nodi rhai camau nesaf posib ar gyfer cefnogi a chryfhau dulliau effeithiol o ddarpariaeth gyfunol mewn gwasanaethau lles yn y gymuned ledled Cymru:  

  • Oedi a myfyrio i wneud newidiadau yn seiliedig ar arfer da yn ogystal â datblygu strategaeth. I lawer o sefydliadau, mae dulliau cyfunol wedi datblygu mewn ffordd eithaf adweithiol a byrfyfyr. Nawr yw’r amser i bwyso a mesur beth sy’n gweithio a pha adnoddau sydd eu hangen, yn ogystal â cheisio datblygu dull strategol tymor hwy o ymdrin â darpariaeth gyfunol.
  • Cychwyn gweithio mewn partneriaeth a dysgu rhwng cymheiriaid. Mae potensial i sefydliadau gydweithio’n fwy effeithiol, gan rannu a defnyddio gwybodaeth arbenigol am wahanol agweddau ar ddarpariaeth gyfunol o fewn eu rhwydweithiau.
  • Cyd-gynhyrchu darpariaeth gyfunol gyda defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid ehangach. Dylai sefydliadau flaenoriaethu creu cyfleoedd i gynnwys defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid ehangach wrth ddylunio a chynllunio darpariaeth gyfunol, er mwyn helpu i sicrhau bod gwasanaethau’n ymateb i anghenion a dewisiadau pobl ac yn adlewyrchu gwybodaeth sy’n cael ei gyrru gan ddefnyddwyr, yn hytrach na thybiaethau sefydliadol.
  • Gwerthuso i adeiladu’r sylfaen dystiolaeth. Mae angen monitro a gwerthuso prosesau a chanlyniadau ar frys, i symud o wybodaeth anecdotaidd i ddulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd hyn yn galluogi cyflwyno dulliau addawol o weithio ar raddfa fwy i ddiwallu’r galw cynyddol am wasanaethau lles yn y gymuned a darpariaeth gyfunol.

CLICIWCH YMA i ddarllen yr adroddiad llawn a’r canfyddiadau