Cyfraniad Llywodraethau Is-genedlaethol mewn Trafodaethau Masnach Rhyngwladol

Mae’r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau adolygiad cyflym o dystiolaeth o ymwneud llywodraethau is-genedlaethol â thrafodaethau masnach rhyngwladol.

Bydd i drafodaethau masnach Llywodraeth y DU â’r UE oblygiadau pwysig i Gymru. Fodd bynnag, nid yw’n glir a fydd gan Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cymru lais ystyrlon yn y trafodaethau, a sut y bydd yn sicrhau hynny.

Mae ymwneud llywodraethau is-genedlaethol â thrafodaethau masnach rhyngwladol yn amrywio, nid yn unig rhwng gwledydd, ond o fewn gwledydd hefyd. Mae rhai gwledydd, megis Québec, wedi sicrhau rhan yn y trafodaethau am fod gan y dalaith gymwyseddau eisoes sy’n hollbwysig i lwyddiant y cytundeb.

Gallai Cymru ddysgu llawer o’r enghreifftiau hyn. Mae ein hadroddiad yn awgrymu y gallai Cymru ystyried nifer o gamau er mwyn dylanwadu cymaint â phosibl ar y trafodaethau masnach sydd i ddod.

Gallai wneud y canlynol:

  • Ymgymryd â gwaith diplomataidd gyda Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid eraill, megis yr UE ac aelod-wladwriaethau’r UE, cyn y trafodaethau;
  • Nodi blaenoriaethau clir a phenodol sy’n arbennig o bwysig i economi Cymru;
  • Recriwtio negodydd arweiniol ‘dylanwadol’ sydd â phrofiad ym maes cysylltiadau a masnach ryngwladol;
  • Buddsoddi mewn timau negodi sy’n gwella gallu Llywodraeth Cymru i ymwneud â thrafodaethau cymhleth â nifer o randdeiliaid.