Comisiynau a’u Rôl ym Maes Polisi Cyhoeddus

Mae’r adroddiad hwn yn dadansoddi sut i gael sylfaen addas ar gyfer comisiynau polisi, y gwahanol ffyrdd o gasglu tystiolaeth, a sut i reoli gwleidyddiaeth i sicrhau’r effaith orau posibl ar bolisïau.

Defnyddir syniadau arweinwyr comisiynau polisi blaenorol, a gasglwyd mewn trafodaeth grŵp breifat, ac ymchwil academaidd berthnasol.

Crëwyd yr adroddiad i lywio’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, sydd wedi’i gadeirio gan yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, ynghyd â’r holl gomisiynau polisi yng Nghymru yn y dyfodol.