Beth sy’n cyfrif fel tystiolaeth ar gyfer polisi?

Yn ystod pandemig Covid-19, daeth yn gyffredin i beidio â defnyddio’r ymadrodd ‘dilyn y wyddoniaeth’. Ond gall yr hyn a olygir gan dystiolaeth amrywio yn ôl pwy sy’n gofyn, y cyd-destun a ffactorau eraill. Gwnaethom gynnal gwaith ymchwil i ddadansoddi canfyddiadau gweithredwyr polisïau Cymru tuag at dystiolaeth. Mae’r canfyddiadau hyn yn bwysig oherwydd byddant yn effeithio ar y rheswm y mae gwahanol weithredwyr polisïau yn defnyddio tystiolaeth neu beidio ac, yn y pen draw, ar sut y caiff polisi ei lunio.

I wneud y gwaith ymchwil hwn, gwnaethom ddefnyddio methodoleg Q – sef dull cymysg a ddatblygwyd i astudio agweddau a chanfyddiadau unigolion. Ystyr hyn yw bod cyfranogwyr yn graddio set o ddatganiadau ar beth yw tystiolaeth a’i rôl wrth lunio polisïau. Casglwyd y datganiadau hyn o’r llenyddiaeth bresennol, papurau newydd a chyfweliadau arbenigol. Wrth gyfarfod yn rhithwir (oherwydd pandemig Covid-19), gofynnwyd i bob cyfranogwr raddio’r datganiadau mewn siâp pyramid cytuno-i-anghytuno (+4 i -4); cymryd ffotograff o’r datganiadau terfynol wedi’u trefnu; a chwblhau holiadur byr am eu barn ar dystiolaeth.

Cynhaliwyd cyfweliadau â 34 o gyfranogwyr o bob rhan o gymuned bolisi Cymru, o Weinidogion i weision sifil, staff y Senedd, yn ogystal â sefydliadau cymdeithas sifil ac academyddion, i drafod eu canfyddiadau o dystiolaeth ar gyfer polisi.