Beth gall Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ei wneud am dlodi?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) gynhyrchu cynlluniau llesiant lleol bob pum mlynedd, ar sail asesiad o anghenion llesiant yn eu hardaloedd lleol, gan nodi amcanion llesiant a chamau arfaethedig i’w cyflawni.

Yn dilyn ein gwaith blaenorol yn 2021 yn darparu sesiynau briffio i BGCau i’w cynorthwyo gyda’u hasesiadau llesiant, yn 2022 gofynnodd Llywodraeth Cymru i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru arwain cyfres o weithdai ar gyfer BGCau am ‘beth sy’n gweithio’ mewn meysydd llesiant penodol, gyda’r nod o ddefnyddio’r dystiolaeth hon wrth greu eu cynlluniau llesiant.

Gofynnwyd i CPCC gyflwyno gweithdai mewn dau faes: tlodi a gwella llesiant o safbwynt cymunedol.

Nododd asesiadau llesiant BGC dlodi aml-ddimensiwn fel rhwystr allweddol i lesiant sy’n wynebu llawer o bobl a chymunedau yn eu hardaloedd.  Defnyddiodd CPCC ganfyddiadau o’n hadolygiad o dlodi ac allgáu cymdeithasol i Lywodraeth Cymru archwilio a chyflwyno’r dystiolaeth o safbwynt BGC lleol. Roedd y mewnbwn i’r gweithdy tlodi sylfaenol yn cynnwys strategaethau tlodi effeithiol, tystiolaeth am yr hyn sy’n gweithio mewn ystod o feysydd sy’n berthnasol i flaenoriaethau BGC, a gweithgareddau hirdymor i helpu i hybu rhagolygon economaidd ardal a’i phobl. Mae’r pecyn gweithdy yn rhoi crynodeb o’r gweithdy, gan gyfuno tystiolaeth o nifer o brosiectau ymchwil CPCC i gyflwyno tystiolaeth o safbwynt BGC, a rhoi trosolwg o’r drafodaeth gan gyfranogwyr am yr hyn y mae’r dystiolaeth hon yn ei olygu i BGCau. Roedd gweithdy atodol yn archwilio rôl dangosfyrddau ac offer data byw wrth helpu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i nodi’r rhai sydd mewn tlodi ac mewn perygl o dlodi, gyda mewnbynnau gan Data Cymru a BGC Ceredigion.