Adolygiad rhyngwladol o strategaethau gwrth-dlodi effeithiol

Mae’r adroddiad hwn gan y New Policy Institute (NPI), yn edrych ar y dystiolaeth ryngwladol ynghylch hanfod strategaeth wrth-dlodi effeithiol. Mae’r adroddiad yn rhan o brosiect ehangach ar gyfer llywio penderfyniadau Llywodraeth Cymru ar bolisïau tlodi ac allgáu cymdeithasol.

Mae’r astudiaeth hon yn ymwneud â’r strategaeth ei hun yn hytrach na’r polisïau a’r rhaglenni unigol sy’n ei hategu neu sydd ynddi.

Mae’r adolygiad o bolisïau a rhaglenni rhyngwladol yn destun astudiaeth ar wahân o dan adain yr LSE. Felly, mae’r astudiaeth hon yn canolbwyntio ar adolygu agweddau llunio, gweithredu, llywodraethu a monitro strategaethau, ynghyd â meini prawf eu heffeithiolrwydd, i ystyried y ffordd orau o baratoi strategaethau cyffredinol a thrawsbynciol er ymdrechion lleddfu tlodi.

Mae’r adroddiad wedi’i seilio ar ymchwil i bum strategaeth gyfredol rhag tlodi: dwy wladol yn Seland Newydd a’r Alban; dwy ranbarthol yn Baden-Württemberg (yr Almaen) a Castilla La Mancha (Sbaen) ac un leol yn ninas Toronto (Canada).

Ar ôl ystyried yr achosion hynny, daw’r adroddiad i’r casgliad mai rôl strategaeth yn erbyn tlodi yw hwyluso camau i’w leddfu lle nad y bobl a’r mudiadau sydd o blaid gweithredu yw’r un rhai sydd mewn sefyllfa i wneud hynny o reidrwydd. Gan ystyried ymchwil arall i hanfod strategaeth dda hefyd, cynigir y dylai strategaeth gynnwys y canlynol ar gyfer lleddfu tlodi:

  1. Cynnig fframwaith sy’n rhoi ffordd o hwyluso neu fynnu camau.
  2. Disgrifio ei nodau yn eglur heb gynnwys camau na fyddan nhw’n helpu i’w cyflawni.
  3. Cydnabod mai cynllunio a gweithredu sy’n bwysicaf hyd nes bod menter wrth-dlodi wedi ennill ei phlwyf.
  4. Cydnabod bod angen dealltwriaeth, cydlynu ac adnoddau da er mwyn cynllunio a gweithredu’n effeithiol.
  5. Cydnabod bod gwneud i rywbeth ddigwydd yn werthfawr ynddo’i hun.
  6. Gallu dysgu wrth fynd rhagddi, gan roi rôl gynyddol i drefniadau mesur deilliannau.
  7. Bod o dan adain gweinidog a chanddo ddigon o rym i ofalu bod y strategaeth yn mynd rhagddi.