Adolygiad rhyngwladol o fodelau rheoleiddio ar gyfer diogelwch adeiladau

Datganolwyd pwerau rheoleiddio adeiladu yn 2011, gan roi’r pŵer i Weinidogion Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i’r system diogelwch adeiladau rheoleiddiol yng Nghymru. Mae trychineb Tŵr Grenfell wedi amlygu’r angen i wneud gwelliannau i’r system diogelwch adeiladau.

Mae Llywodraeth Cymru yn y broses o ddiwygio’r system bresennol, yn dilyn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i sicrhau bod ‘pobl yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi’. Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn ar ddiwygio’r ddeddfwriaeth a’r diwylliant sy’n ymwneud â diogelwch adeiladau. Tynnodd hyn ar ganfyddiadau Adolygiad Hackitt 2018: yr ymchwiliad annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU i reoliadau adeiladu a diogelwch tân yn dilyn Grenfell; ac adroddiad Grŵp Arbenigol Diogelwch Adeiladau Llywodraeth Cymru 2019, ‘Map Ffordd i Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru’.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i WCPP grynhoi’r dystiolaeth ryngwladol ar fodelau rheoleiddio ar gyfer diogelwch adeiladau er mwyn llywio penderfyniadau ar ddiwygio’r model rheoleiddio mewn deddfwriaeth sydd i ddod. Mewn ymateb i’r cais hwn, cynullodd WCPP drafodaeth ford gron ar 16 Rhagfyr 2022 rhwng arbenigwyr academaidd ac uwch swyddogion o Lywodraeth Cymru.

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r prif gasgliadau o’r drafodaeth hon gyda thystiolaeth ategol ychwanegol. Mae’n dechrau drwy ystyried rheoliadau diogelwch adeiladau cyfredol yng Nghymru a chynnig Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r system reoleiddio bresennol yn ei Phapur Gwyn, gan gynnwys swyddogaethau craidd arfaethedig y rheoleiddiwr diwygiedig. Yna mae’n archwilio’r manteision a’r risgiau sy’n gysylltiedig â modelau rheoleiddio sengl a lluosog a’r swyddogaethau y byddai angen eu canoli i gyflawni nodau’r diwygio a gwella gweithrediad y system bresennol. Byddai pwyllgor trosfwaol sy’n gweithredu fel un pwynt cyswllt yn gwella gwelededd a rhwyddineb ymgysylltu â’r person atebol. Canfyddiad allweddol yw, ni waeth a ddilynir rheoleiddiwr sengl neu luosog, bydd angen capasiti ychwanegol i gyflawni’r swyddogaethau angenrheidiol.

Yn olaf, mae’r adroddiad yn nodi themâu gorfodi a sancsiwn allweddol. Mae’r rhain yn cynnwys defnyddio gorfodaeth a sancsiynau i feithrin newid mewn ymddygiad, opsiynau ar gyfer ariannu modelau gorfodi a sancsiynau, ac effeithiolrwydd gwahanol ddulliau gorfodi a sancsiynau. Dim ond un rhan o’r ‘pecyn cymorth’ sydd ei hangen i fynd i’r afael â diffyg cydymffurfio â rheoliadau diogelwch adeiladau yng Nghymru yw gorfodi a sancsiynau.