A fydd eich polisi’n methu? Dyma sut mae gwybod a gwneud rhywbeth amdano… 

Yn aml, bydd polisïau’n methu cyflawni eu bwriad. Er bod llawer wedi’i ysgrifennu am hyn, a sut i’w osgoi, prin i raddau yw’r wybodaeth a’r manylion.

Fe wnaethom gynnal adolygiad, gyda’r Centre for Evidence and Implementation  er mwyn gallu deall y syniadau diweddaraf ar y bwlch gweithredu polisi a chanfod sut gellir integreiddio gwybodaeth o’r wyddor weithredu i waith polisi. Fe wnaethom adolygu astudiaethau o weithredu polisïau ac adnoddau polisïau sy’n cynnig arweiniad ar integreiddio ffocws gweithredu yn y trefniadau ar gyfer llunio a chyflawni polisïau.

I gefnogi’r adolygiad, fe wnaethom ddatblygu fframwaith, gan ddefnyddio ac addasu fframweithiau presennol o’r llenyddiaeth. O dan y model hwn, mae gweithredu llwyddiannus yn dibynnu ar y rhyngweithio rhwng cynnwys y polisi (‘pam’, ‘beth’ a ‘sut’ y polisi) a’r cyd-destun gweithredu (y seilwaith cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd sy’n gweithredu ar wahanol lefelau).

Mae’r rhyngweithio hwn yn cael ei gyfryngu gan strategaethau gweithredu (mesurau penodol sy’n ceisio gwreiddio neu gyflawni polisi) a dulliau cymorth gweithredu – gweithgareddau a nodwyd drwy ein hadolygiad sy’n helpu i sicrhau bod cynnwys polisi yn cyd-fynd â’r cyd-destun gweithredu, lliniaru rhwystrau rhag cam-alinio, a defnyddio hwyluswyr i weithredu.

Mae ein hadroddiad yn disgrifio saith dull cymorth gweithredu, a’u rôl o ran lleihau amwysedd polisi a sicrhau mwy o gysondeb â chyd-destun. Mae’n amlinellu sut a phryd y gellir defnyddio’r rhain i liniaru methiant polisi – ac mae’n dangos ei bod yn bosibl dal i fyny neu wneud iawn yn ddiweddarach am ddulliau nad oeddent wedi’u defnyddio’n ddigonol yn ystod y camau cynharach.