2019 – Dan Adolygiad

Mae’r adroddiad hwn yn darparu trosolwg byr o’r gwaith a wnaethom yn 2019, gyda hypergysylltiadau i’n hadroddiadau llawn wedi’u hymgorffori. Gallwch chi lawrlwytho’r adroddiad isod.

 

Cafodd 2019 ei nodi gan ansicrwydd gwleidyddol a dadleuon polisi polareiddiedig. Roedd yn bwysig felly fod llunwyr polisi a gwasanaethau cyhoeddus yn gallu cael mynediad i dystiolaeth ddibynadwy annibynnol ynglŷn â’r hyn sy’n gweithio.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gweithio’n agos gydag arbenigwyr academaidd, gwasanaethau cyhoeddus a gweinidogion Llywodraeth Cymru i bontio’r bwlch sy’n aml yn bodoli rhwng meysydd polisi ac ymchwil.  Rydym wedi cyhoeddi mwy na 40 o adroddiadau ac wedi cynnull nifer o ddigwyddiadau sydd wedi dod â mwy na 100 o ymchwilwyr o ar draws y DU, Canada, Denmarc, Gwlad yr Iâ, Norwy a Sweden ynghyd â llunwyr polisi ac ymarferwyr i drafod yr heriau mawr o ran polisi sy’n wynebu Cymru.

Rydym hefyd wedi parhau i chwarae rôl bwysig fel rhan o Rwydwaith Yr Hyn sy’n Gweithio, sy’n gweithredu ar draws y DU, gan gydweithio â Chanolfannau Yr Hyn sy’n Gweithio eraill i sicrhau bod llunwyr polisi yng Nghymru â mynediad i’r dystiolaeth eu bod yn ei chynhyrchu ar wella iechyd, cyrhaeddiad addysgol, tyfiant economaidd, gofal cymdeithasol, ymyriad cynnar, heneiddio’n well, digartrefedd, llesiant, a lleihau troseddau.

Gwelwyd diddordeb cynyddol yn y dull sy’n seiliedig ar alw o gynnull tystiolaeth sydd wedi cael ei ddatblygu gennym, ac roeddem yn falch o gael ein dethol fel un o’r ddau sefydliad yn rownd derfynol gwobr fawr ei bri Effaith ar Bolisi Cyhoeddus y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Rydym hefyd wedi tynnu ar ein profiad o weithio gyda llunwyr polisi i gyfrannu mewnwelediadau newydd at y llenyddiaeth academaidd newydd ar ddefnyddio tystiolaeth.