Syr Peter Housden

Yn dilyn gyrfa ym myd addysg a llywodraeth leol, ymunodd Peter Housden â’r Gwasanaeth Sifil yn 2001. Bu’n gwasanaethu fel Ysgrifennydd Parhaol yn ODPM a Chymunedau a Llywodraeth Leol cyn cael ei benodi’n Ysgrifennydd Parhaol yn yr Alban, gan arwain y gwasanaeth sifil yno o 2010-2015 trwy’r refferendwm ar annibyniaeth a rhaglenni pwysig o safbwynt gwella gwasanaethau cyhoeddus a buddsoddiad economaidd.

Mae Peter yn ymddiddori mewn arweinyddiaeth gydweithredol a datblygu’r gweithlu gwasanaethau cyhoeddus. Ers gadael y Gwasanaeth Sifil, mae wedi ymwneud â gwaith datblygu arweinyddiaeth yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, ac mae’n un o Ymddiriedolwyr yr RNLI.

Tagiau