CPCC yn ymuno ag Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol gwerth £2m

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC) yn rhan o fenter newydd o bwys a fydd yn dod ag ymchwilwyr a llunwyr polisi ynghyd i fynd i’r afael ag effeithiau pandemig y Coronafeirws a chyflymu adferiad y DU.

Mae’r Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol (IPPO) yn gydweithrediad rhwng Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Queen’s Belfast, Prifysgol Auckland a Phrifysgol Rhydychen, ynghyd â’r Rhwydwaith Rhyngwladol ar gyfer Gwyddoniaeth y Llywodraeth a’r cyhoeddwr newyddion academaidd, The Conversation. Fe’i ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ac fe’i dyfarnwyd i Gaerdydd a’n partneriaid trwy broses o gystadlu agored.

Bydd cyfranogiad WCPP yn yr IPPO yn sicrhau bod llunwyr polisi Cymru yn elwa o’i gwaith ac yn adeiladu ar y dull arloesol o ymgysylltu yr ydym wedi’i ddatblygu gyda Gweinidogion ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Dywedodd ein Cyfarwyddwr, yr Athro Steve Martin: “Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid yn yr IPPO i helpu i sicrhau bod y fenter newydd bwysig hon yn diwallu anghenion tystiolaeth llunwyr polisïau ym mhob rhan o’r DU.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Academaidd SPARK, yr Athro Chris Taylor : “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan fawr o Arsyllfa a fydd yn rhoi mynediad i lunwyr polisïau’r DU at adnoddau, tystiolaeth a dadansoddiad o ymatebion polisi byd-eang i COVID-19, fel y gallant wneud penderfyniadau gwell wrth ddelio ag effeithiau’r pandemig. Bydd yr IPPO yn canolbwyntio ar ystod o feysydd polisi cyhoeddus lle mae gan SPARK arbenigedd ymchwil sy’n arwain y byd, megis addysg, gofal cymdeithasol plant ac oedolion, iechyd meddwl glasoed, paratoi gwybodaeth a broceru anghenion tystiolaeth llunwyr polisïau.”

Er mwyn mynd i’r afael â’r anghenion polisi mwyaf brys, bydd yr IPPO yn torfoli cwestiynau a phynciau allweddol gan lunwyr polisïau a’r cyhoedd. Bydd yn creu ‘mapiau byw’ o dystiolaeth a pholisi i dorri trwy’r nifer fawr o ymatebion ymchwil cymdeithasol a pholisi ar COVID-19 a darparu cronfa ddata ymchwil y gellir ei chwilio.

Dywedodd yr Athro Joanna Chataway o UCL, prif ymchwilydd yr IPPO: “Mae pandemig COVID-19 wedi creu heriau digynsail i lunwyr polisïau. Mae ystod a brys y dystiolaeth sydd eu hangen arnynt yn tyfu’n barhaus, ac os nad yw’n hawdd ei chyrraedd, mae hyn yn creu rhwystr arall wrth ddatblygu’r mesurau sydd eu hangen arnom i helpu cymdeithas trwy effeithiau COVID-19.”

Bydd yr IPPO yn adeiladu cysylltiadau parhaol rhwng arbenigwyr polisi ac ymchwil o bob cwr o’r byd ac yn darparu mewnwelediadau hyblyg wedi’u targedu ar y ffordd orau i fynd i’r afael ag ymateb ac adferiad y DU i’r pandemig.