Pam mae Comisiynau Polisi yn Llwyddiannus?

Lleoliad Caerdydd
Dyddiad 26 Ionawr 2018

Hydref diwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fod wedi sefydlu Comisiwn ar Gyfiawnder newydd yng Nghymru, sydd â’r dasg o ystyried sut y gellid sefydlu system gyfiawnder wahanol yng Nghymru ac, yn benodol, nodi opsiynau sy’n ‘ei gwneud yn haws i bobl gael mynediad at gyfiawnder, yn ogystal â gostwng nifer y troseddau a hybu’r broses adsefydlu’.

Ar 26 Ionawr, cafodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru drafodaeth bord gron gydag aelodau o’r Comisiwn newydd ac arbenigwyr uchel eu parch sydd wedi arwain comisiynau blaenorol ar faterion sy’n ymwneud â pholisi yng Nghymru, gan asesu’r hyn sy’n eu gwneud yn effeithiol. Cawsom drafodaeth gyfoethog a mewnweledol.

Mae comisiynau, tasgluoedd a phaneli yn adnodd cyffredin wrth lunio polisi yng Nghymru heddiw, ac rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad yn ddefnyddiol i bawb sy’n ymwneud â nhw yn y dyfodol. Cadwch olwg!