Ymchwilio i’r defnydd o dystiolaeth wrth lunio polisi

Beth yw ystyr bod yn ‘frocer gwybodaeth’? Pa effaith mae broceriaeth gwybodaeth yn ei chael ar lunio polisi gan y llywodraeth? Pam gallai fod angen ymdrin â’r defnydd o dystiolaeth ar lefel leol mewn gwahanol ffyrdd, a sut byddai hynny’n cael ei roi ar waith?

Yma yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru rydym yn cydnabod bod y berthynas rhwng tystiolaeth a pholisi yn gymhleth a bod amrywiaeth o ffactorau’n dylanwadu arni, a hynny o ran y cyflenwad a’r galw.  Rydym yn gwneud gwaith ymchwil i ddatblygu dealltwriaeth o’r rôl y gall tystiolaeth ei chwarae i gefnogi gwell llunio polisi.  Bydd y canlyniadau’n llywio ein dull o weithio gyda llunwyr polisi a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus  a bydd o ddiddordeb i Ganolfannau What Works eraill.

 

Brocera gwybodaeth a chyrff brocera gwybodaeth

Yn sgîl amlygrwydd y rhethreg Llunio Polisi ar Sail Tystiolaeth (EBPM) ers y 1990au mae lliaws o sefydliadau wedi dod i’r amlwg sy’n ceisio pontio’r bwlch canfyddedig rhwng tystiolaeth a llunwyr polisi.  Mae’r rôl hon wedi dod i gael ei deall fel brocera gwybodaeth, ac mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn sefydliad brocera gwybodaeth.  Mae ein gwaith ymchwil yn dadansoddi sut a pham mae’r cyrff hyn wedi dod i’r amlwg mewn gwahanol wledydd, yn nodi eu priodweddau, ac yn asesu eu heffaith ar bolisi.  Rydym ni’n astudio sefydliadau brocera gwybodaeth yng Nghanada, De Affrica a gwledydd eraill, ac yn cymharu’r rheiny â’n hymarfer yng Nghymru.

 

Effaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar lunio polisi yng Nghymru

Rydym ni’n ymddiddori mewn deall ein heffaith ein hunain ar lunio polisi a darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.  Mae’r ymchwil bresennol ar effeithiolrwydd brocera gwybodaeth yn gyfyngedig.  Cyfyngir arni’n aml gan natur tymor byr y rhan fwyaf o ymgysylltiadau ymchwil-polisi, a’r diffyg mesurau cadarn.  Rydym ni’n cynnal asesiad beirniadol manwl o’n dull o weithio gyda Llywodraeth Cymru, gyda’r nod o sicrhau mewnwelediad yng nghyswllt pryd, ym mha ffyrdd ac o dan ba amodau mae ein rôl brocera gwybodaeth wedi llywio llunio polisi.  Bydd ein gwaith ymchwil yn hanfodol i wella’n gwaith ein hunain ac ar gyfer ymarfer brocera gwybodaeth yn ehangach.

 

Defnydd o dystiolaeth ar lefel leol

Mae’r Ganolfan hefyd yn gwneud gwaith ymchwil ar y defnydd o dystiolaeth ym maes llunio polisi, dylunio gwasanaethau a gweithredu ar lefel leol. Cyflwynwyd amrywiaeth o fentrau er mwyn cynyddu’r defnydd o dystiolaeth i lywio polisi lleol a gwella perfformiad gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen. Bydd ein hymchwil yn darparu asesiad manwl o’r hyn a ddysgwyd o’r modelau ymgysylltu hyn. Byddwn yn archwilio’r mathau o wybodaeth sy’n bwysig, yr hyn sy’n cyfrif fel tystiolaeth i wahanol gyrff a sefydliadau (e.e. awdurdodau lleol) a sut caiff hyn ei ddefnyddio wrth wneud penderfyniadau ac o ran ymarfer.

Yn ogystal â’n gwaith ymchwil ar y defnydd o dystiolaeth wrth lunio polisi, mae gennym hefyd sawl prosiect sy’n archwilio dyluniad a gweithrediad polisïau yng Nghymru.  Bu astudiaeth ddiweddar yn asesu sut roedd cynghorau Cymru wedi ymateb i gyni.  Daeth i’r casgliad bod llywodraeth leol yng Nghymru yn cyrraedd pwynt tyngedfennol o ran heriau ariannol. Mae’r rhan fwyaf o arbedion effeithlonrwydd bellach wedi’u gwneud, a bydd y gostyngiadau disgwyliedig o ran ystod ac ansawdd gwasanaethau yn y dyfodol yn cael effaith uniongyrchol ar ansawdd bywyd dinasyddion. Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod angen cynnal trafodaeth ynghylch cynaliadwyedd llywodraeth leol yng Nghymru, a sut mae modd cefnogi cynghorau i fod yn gydnerth.

Mae prosiect ymchwil arall yn olrhain tarddiad a datblygiad darn arloesol o ddeddfwriaeth ar ddatblygu cynaliadwy, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.  Mae’n dadansoddi sut mae’r ddeddfwriaeth wedi cael ei dehongli a’i rhoi ar waith ar lefel leol, trwy Gynlluniau Llesiant Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, er mwyn rhoi sylw i faterion lleol.

Rydym yn croesawu sylwadau ac awgrymiadau ar ein rhaglen ymchwil gan y rhai sy’n gweithio ar ryngwyneb tystiolaeth a pholisi, ac sydd â chwestiynau tebyg ynghylch sut mae gwella’r berthynas.  Rydym ni’n edrych ymlaen at rannu canfyddiadau’r prosiectau ymchwil hyn a thrafod sut gall sefydliadau brocera gwybodaeth, megis Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, gefnogi llunio polisi a chanlyniadau gwasanaeth cyhoeddus yn well.  Tanysgrifiwch i’n  llythyr newyddion i gael gwybodaeth gyson am ein datblygiadau ymchwil diweddaraf.