Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a’r Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar (RCP) yn gweithio gyda’i gilydd ar brosiect ymchwil gyda’r nod o ddeall rôl cydweithredu amlsectoraidd yn well wrth gefnogi gweithredu cymunedol sy’n gwella llesiant.
Rydyn ni’n cynnal gweithdy, noddir gan Gofal Cymdeithasol Cymru, y 30fed Ionawr 2024 (12.30 – 4.30) a fydd yn canolbwyntio ar yr hyn y mae canfyddiadau ein hadolygiad yn ei olygu yn ymarferol i ystod o gyrff a sefydliadau ledled Cymru.
Rydym ni eisiau deall yn well sut y gallai’r gwahanol gamau a nodwyd o’r dystiolaeth fod yn addas ar gyfer gwahanol nodau cydweithredu a’r gwahanol gyd-destunau y mae’n digwydd ynddynt. Ein nod yw cynhyrchu allbynnau sy’n canolbwyntio ar ymarfer o’r gweithdai hyn, sy’n mynd y tu hwnt i restru ‘cynhwysion’ ar gyfer cydweithredu effeithiol, a chynnig ystod o gamau pendant y gellid eu cymryd mewn cyd-destunau penodol.
Mae croeso i bawb sy gyda diddordeb mewn cydweithredu aml sectoraidd a gobeithiwn weld cyfranogion o leoedd, sectorau a gwaith amrywiol.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y gweithdy.