Grŵp Cynghori

Mae’r Grŵp Cynghori yn rhoi cyngor ar ddatblygiad a chyfeiriad strategol hirdymor y Ganolfan.

Mae aelodau’r Grŵp yn unigolion adnabyddus sydd â phrofiad helaeth o weithio ar lefelau uwch yn y byd academaidd, yn y llywodraeth, ym maes gwasanaethau cyhoeddus, mewn busnes ac mewn sectorau eraill, ac sydd wedi ymrwymo i ddefnyddio tystiolaeth fanwl er mwyn llywio a gwella gwaith llunio polisi ac ymarfer.

Maent yn gweithredu fel ffrindiau beirniadol sy’n herio’n adeiladol, yn helpu ac yn rhoi cyngor, ac maent yn hyrwyddo gwaith y Ganolfan.