Grŵp Cyfeirio Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae’r Grŵp Cyfeirio Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnig cyngor ar anghenion tystiolaeth a sylwadau ar weithgareddau ac allbynnau’r Ganolfan, gan herio’n adeiladol, hyrwyddo cyfranogiad yn y gwaith a cheisio sicrhau bod y dystiolaeth rydym yn ei chynhyrchu yn cael ei mabwysiadu a’i defnyddio.

Mae’r Grŵp yn cynnwys unigolion sy’n gweithio ar lefelau uwch ym maes llywodraeth leol, ym maes iechyd, mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill, yn ogystal â Chyrff a Noddir gan y Cynulliad a’r sector gwirfoddol.