Pobl

Isod mae gwybodaeth am ein staff, yn ogystal â'n grŵp cynghori a'n grŵp cyfeirio gwasanaethau cyhoeddus.

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn dîm amlddisgyblaethol sy’n cyfuno profiad personol o weithio yn y byd academaidd, yn y gwasanaeth sifil, yn y sector preifat, yn y gwasanaeth iechyd, ym maes llywodraeth leol, mewn sefydliadau gwirfoddol ac mewn grwpiau cymunedol, yn ogystal â phrofiad o gydweithio â nhw. Mae’r cefndiroedd amrywiol hyn yn galluogi’r Ganolfan i weithio’n effeithiol gyda chydweithwyr academaidd er mwyn sicrhau bod eu hymchwil yn cael yr effaith fwyaf, a llunwyr polisi ac ymarferwyr er mwyn gwneud y defnydd gorau o dystiolaeth i fynd i’r afael â materion allweddol sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus.