Yr Athro Syr Adrian Webb

(BSocSci, MSc, Econ, DLitt)

Bu Adrian gynt yn Is-Ganghellor Prifysgol ac yn Athro Polisi Cymdeithasol, ac yn awr mae’n Gadeirydd ar Gronfa’r Loteri Fawr, Cymru, ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd y Deyrnas Unedig.

Mae hefyd yn gadeirydd ar Fwrdd Ymgynghori Gweinidogol Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Economi. Mae wedi llenwi rolau amrywiol, a sawl rôl ymgynghorol arall yn Whitehall (ar gyfer yr Adrannau Addysg; Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Trysorlys EM; y Weinyddiaeth Gyfiawnder) a Llywodraeth Cymru. Bu Adrian yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd Llywodraeth Cymru, ac mae wedi cadeirio neu fod yn aelod o nifer o gomisiynau/ymchwiliadau annibynnol.

Tagiau