Yr Athro Ruth Hussey

(MBChB, MSc, MD, FFPH (cymrawd y Gyfadran Iechyd Cyhoeddus))

Bu Ruth yn Brif Swyddog Meddygol Cymru am bedair blynedd tan 2016.

Cafodd hyfforddiant cychwynnol fel Meddyg Teulu cyn gweithio yn y byd academaidd, yn Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus yn Lerpwl, ac mewn rolau arweinyddiaeth strategol yn y GIG a’r Adran Iechyd.

Ruth oedd Cadeirydd yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, ac mae bellach yn Gomisiynydd ar Gomisiwn y Lancet/Ysgol Economeg Llundain (LSE) ar Ddyfodol y GIG. Hi hefyd yw Cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Bwyd Cymru, ac mae’n aelod o Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn aelod o’r Bwrdd Anghydraddoldebau Iechyd, Public Health England ac yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol yr NIHR, Ysgol Ymchwil i Iechyd Cyhoeddus. Daeth yn un o Lywodraethwyr y Sefydliad Iechyd ym mis Chwefror 2018, mae’n Llywydd Anrhydeddus ar y North Wales Ramblers Cymru, yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Lerpwl, ac wedi derbyn dyfarniadau gan ystod o brifysgolion eraill yng Nghymru a Lloegr.

Tagiau