Yr Athro Laura McAllister

(CBE, FRSA, FLSW)

Mae Laura yn Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethiant Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.

Mae’n arbenigwr ar ddatganoli, gwleidyddiaeth Cymru ac etholiadau, a hefyd ar rywedd. Bu Laura gynt yn chwarae pêl-droed i Gymru ar lefel ryngwladol, a hefyd yn gapten, a bu’n Gadeirydd ar Chwaraeon Cymru am chwe blynedd ac yn aelod o Fwrdd UK Sport. Ar hyn o bryd hi yw Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru, a Dirprwy Gadeirydd Pwyllgor Pêl-droed Benywod UEFA. Bu Laura hefyd yn Gadeirydd ar Banel Arbenigol y Cynulliad Cenedlaethol ar Ddiwygio Etholiadol yn 2017, ac mae’n gyn-aelod o Fwrdd Taliadau’r Cynulliad, y Panel Annibynnol ar Gyflogau a Chymorth ACau, a Chomisiwn Richard ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Laura yn ysgrifennu colofn i’r Western Mail/Wales Online ac yn sylwebydd yn y cyfryngau ar wleidyddiaeth a chwaraeon, yn un o Ymddiriedolwyr Bwrdd y Sefydliad Materion Cymreig, ac yn gyfarwyddwr anweithredol i Goodson Thomas Executive Search.

Dyfarnwyd iddi raddau a chymrodoriaethau er anrhydedd o brifysgolion Bangor, Caerdydd, Metropolitan Caerdydd, Abertawe, Abertawe y Drindod Dewi Sant, a De Cymru.

Tagiau