Yr Athro James Downe

Teitl swydd Cyfarwyddwr Ymchwil
Sefydliad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
Ebost cyswllt james.downe@wcpp.org.uk
Rhif ffôn 02920875298

Mae James yn Athro mewn Polisi Cyhoeddus a Rheoli yn Ysgol Fusnes Caerdydd, ac ef yw Cyfarwyddwr Ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Mae wedi dal swyddi academaidd ym Mhrifysgol Plymouth ac Ysgol Fusnes Warwick yn flaenorol.

Mae ganddo dros 15 mlynedd o brofiad o werthuso polisi llywodraeth leol. Mae hyn yn cynnwys prosiect ar gyfer Llywodraeth y DU ar Agenda Moderneiddio Llywodraeth Leol, astudiaeth a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol o gyfundrefnau gwella perfformiad yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ac ymchwil i bolisi Llywodraeth Cymru ar lywodraeth leol, gan gynnwys ei threfniadau gweithredol a chraffu.

Yn ddiweddar, mae wedi arwain gwaith ar werthuso trefniadau cydweithio rhanbarthol yng Nghymru a phrosiect yn ymchwilio i effeithiolrwydd y dull sy’n cael ei arwain gan y sector o wella llywodraeth leol yn Lloegr.

Ar hyn o bryd, mae James yn gweithio ar un o brosiectau Horizon 2020 sy’n astudio trefniadau llywodraethu cydweithredol (TROPICO – tropico-project.eu/), gan ymchwilio i dimau o uwch-reolwyr a rennir ym maes llywodraeth leol yn Lloegr ac astudio’r ffordd y mae llywodraeth leol yng Nghymru wedi ymdopi â thoriadau mewn arian cyhoeddus.

Mae ei ddiddordebau ymchwil ym maes cyfundrefnau perfformiad llywodraeth leol, atebolrwydd gwleidyddol, gwelliant a arweinir gan y sector, hyder y cyhoedd ac ymddygiad moesegol gwleidyddion lleol. Mae wedi cyhoeddi sawl erthygl mewn cofnodlyfrau academaidd, gan gynnwys: Public Administration Review, Public Administration, Policy & Politics, Environment and Planning C: Government and Policy, Public Management Review ac International Review of Administrative Sciences. Cliciwch yma* i ddarllen ei gyhoeddiadau (*hyperlink https://www.cardiff.ac.uk/people/view/610310-downe-james)

Gwnaeth James wasanaethu ar Banel Arbenigwyr Llywodraeth y DU ar drefniadau llywodraethu lleol. Ar hyn o bryd, mae’n aelod o Goleg Adolygu gan Gymheiriaid y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ac yn is-gadeirydd Pwyllgor Safonau a Moeseg Cyngor Caerdydd.

Tagiau