Yr Athro Helen Paterson

(PhD)

Helen yw Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Walsall.

Yn gyn-Bennaeth Ysgol, bu’n flaenorol yn gyfarwyddwr yng Nghyngor Solihull, yn Gyfarwyddwr Gweithredol ar Wasanaethau Plant, ac yna’n Gyfarwyddwr Strategol ar gyfer Trawsffurfiad yng Nghyngor Sunderland, ac yn Brif Weithredwr ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Ar hyn o bryd Helen yw Ysgrifennydd Cymdeithas Awdurdodau a Chyd-bwyllgor Gweithredol y ‘Black Country’, ac mae’n Gadeirydd ar Grŵp Prif Weithredwyr Metropolitan Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Mae wedi bod yn ddylanwadol o ran ffurfio ymarfer arloesol yn genedlaethol ar draws Cymru a Lloegr, yn arbennig oddi mewn i drawsffurfio busnes, galluogi digidol, trefniadau llywodraethu, adfywio, modelau darparu amgen, gofal cymdeithasol, a iechyd ac addysg.

Tagiau