Yr Athro Annette Boaz

Mae Annette yn Athro Polisi Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain.

Mae’n arbenigwr blaenllaw ar effaith ymchwil ar bolisi ac ymarfer, a than yn ddiweddar, bu’n gyd-olygydd ar Evidence & Policy, y cyfnodolyn rhyngwladol sy’n arwain yn y maes. Gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Brunel cwblhaodd synthesis tystiolaeth ar gyfer y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd, gan archwilio a yw ymgysylltu ag ymchwil (gan glinigwyr, rheolwyr a thimau) yn arwain at well canlyniadau i gleifion, ac arweiniodd yr astudiaeth ‘See-Impact’ a ariannwyd gan yr MRC, er mwyn archwilio ym mha ffyrdd y gallai ymgysylltu â rhanddeiliaid ar wahanol adegau mewn prosiect ymchwil meddygol helpu i fwyafu ei effaith. Mae wedi cefnogi nifer o fentrau yn y maes, gan gynnwys Gwobr Effaith yr ESRC a rhaglen Cymrodoriaethau Ymchwil Rhoi Gwybodaeth ar Waith yr NIHR.

Yn ogystal â’i gwaith ar effaith ymchwil, mae ganddi arbenigedd mewn ymchwil gwella gwasanaethau, ymwneud y cyhoedd a chleifion ag ymchwil, ac ymchwil ar brofiad cleifion, ac mae newydd gwblhau gwerthusiad o ymyriad gwelliant a ariannwyd gan y Sefydliad Iechyd: Gofal sy’n rhoi’r Claf a’r Teulu yn y Canol.

Tagiau