(CBE, FRSE, FAcSS, FRCP Edin, FRSA, Cipfa (Anrh))
Mae Alice yn Athro Emeritus mewn Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caeredin.
Bu gynt yn Ddirprwy Bennaeth, yn Bennaeth yr Adran Wleidyddiaeth ac yn Gyd-Gyfarwyddwr ar y Sefydliad Llywodraethiant yng Nghaeredin, ac mae wedi cyhoeddi’n eang ar bolisi economaidd a’r farchnad lafur, cyfle cyfartal, benywod a gwleidyddiaeth, gwleidyddiaeth yn yr Alban, newid cyfansoddiadol a chyfiawnder gweinyddol.
Mae Alice wedi llenwi nifer o benodiadau cyhoeddus. Fe’i penodwyd yn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus cyntaf yr Alban yn 2002, a chafodd ei hethol yn Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Frenhinol Caeredin yn 2011 (y fenyw gyntaf yn y swydd honno). Daeth yn Gadeirydd ar Gyngor Cyllido’r Alban yn 2013, ac mae wedi gwasanaethu fel aelod o’r Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus.
Mae gan Alice Raddau er Anrhydedd o Brifysgol Strathclyde, Prifysgol Robert Gordon, Prifysgol Aberdeen, Prifysgol y Frenhines Belfast, Prifysgol Caledonian Glasgow, Prifysgol Caeredin, Prifysgol Napier Caeredin, a Phrifysgol Stirling. Derbyniodd Ddyfarniad Cydnabyddiaeth Arbennig gan y Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol (2009), Gwobr Cyflawniad Oes Addysg Uwch yr Herald (2017) a Gwobr Cyflawniad Oes Gwasanaethau Cyhoeddus Cylchgrawn Holyrood (2017).