Sarah Quarmby

Teitl swydd Cynorthwyydd Ymchwil
Sefydliad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
Ebost cyswllt sarah.quarmby@wcpp.org.uk

Ymunodd Sarah Quarmby â’r Ganolfan ym mis Medi 2017 ar ôl ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf a Rhestr y Deon am Ragoriaeth Academaidd o Goleg Prifysgol Llundain. Mae ei gwaith yn ymestyn dros holl weithgareddau Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, ac mae’n cydweithio ar waith ymchwil academaidd, rhaglen waith Llywodraeth Cymru a phrosiectau gwasanaethau cyhoeddus. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys cyfeiriad y mudiad llunio polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn y dyfodol, gan gynnwys rôl bosibl sefydliadau symud gwybodaeth, a llunio polisi yn America Ladin.