Michael Trickey

Mae Michael yn Uwch Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn cynghori ar hyn o bryd ar Raglen Dadansoddi Ariannol Cymru yng Nghanolfan Llywodraethu Cymru. Bu’n Gyfarwyddwr ar raglen ymchwil Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 am chwe blynedd tan fis Gorffennaf 2018.

Cafodd yrfa gynnar fel llyfrgellydd academaidd, cyn dod yn gyfarwyddwr polisi i Gyngor Celfyddydau Cymru. Yna bu’n gweithio fel gwas sifil uwch, yn arwain ar ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac mae wedi gwasanaethu fel Ymgynghorydd Cymru i Sefydliad Joseph Rowntree.

Mae’n cynghori’r rhwydwaith Cyngor ar Bopeth yng Nghymru, ac mae wedi bod yn llywodraethwr ar nifer o wahanol ysgolion a chyrff lleol eraill.

Tagiau