Matthew Taylor

Mae Matthew wedi bod yn Brif Weithredwr ar yr RSA ers mis Tachwedd 2006. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae’r Gymdeithas wedi cynyddu ei hallbwn ymchwil ac arloesedd yn sylweddol, wedi darparu llwybrau newydd i gefnogi mentrau elusennol ei 29,000 o Gymrodorion, ac wedi datblygu proffil byd-eang fel llwyfan ar gyfer syniadau. Ym mis Gorffennaf 2017 cyhoeddodd Matthew yr adroddiad ‘Good Work’; adolygiad annibynnol o gyflogaeth fodern, a gomisiynwyd gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Cyn ei benodi i’r RSA, Matthew oedd Prif Ymgynghorydd y Prif Weinidog ar Strategaeth Wleidyddol. Ymhlith ei rolau blaenorol mae Cyfarwyddwr Polisi’r Blaid Lafur a Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol a Phrif Weithredwr y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus, prif seiat doethion adain chwith y Deyrnas Unedig.

Mae Matthew yn perfformio’n rheolaidd ar y cyfryngau, ac wedi ymddangos sawl tro ar y Today Programme, The Daily Politics a Newsnight. Bu’n ysgrifennu ac yn cyflwyno sawl rhaglen ddogfen i Radio Pedwar, ac mae’n aelod o’r panel ar y rhaglen Moral Maze. Mae wedi postio dros fil o weithiau ar ei safle blog RSA ac mae’n trydar dan yr enw @RSAMatthew.

Tagiau