Greg Notman

Teitl swydd Swyddog Ymchwil
Sefydliad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
Ebost cyswllt greg.notman@wcpp.org.uk

Ymunodd Greg â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ym mis Hydref 2021 fel rhan o’r rhaglen Prentisiaeth Ymchwil. Mae ganddo ddiddordeb mewn polisi cyhoeddus, arweinyddiaeth wleidyddol, a sut y defnyddir tystiolaeth mewn penderfyniadau am bolisïau, yn ogystal ag amrywiaeth o feysydd polisi gan gynnwys ynni, trafnidiaeth a’r economi sylfaenol.

Mae ganddo brofiad mewn gwleidyddiaeth a seicoleg wleidyddol. Yn ei draethawd hir gradd Meistr, bu’n archwilio dylanwad nodweddion personoliaeth arweinwyr ar y pynciau a drafodwyd yng Nghwestiynau Prif Weinidog yr Alban yn ystod pandemig COVID-19.

Cyn ymuno â WCPP, bu Greg yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Ymchwil o fewn Labordy Ymchwil Niwrowleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caeredin lle bu’n rhan o brosiect yn archwilio sut y trafodwyd Brexit a COVID-19 ar y cyfryngau cymdeithasol yng ngwledydd y DU.

Tagiau